Dynes wedi marw yn dilyn ymosodiad Llanbedr Pont Steffan

  • Cyhoeddwyd
Llanbed

Mae dynes wedi marw yn dilyn ymosodiad yn Llanbedr Pont Steffan yr wythnos diwethaf.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol y Bont am tua 18:00 nos Iau, 8 Tachwedd, ble'r oedd dynes wedi dioddef anafiadau difrifol.

Mae Heddlu Dyfed-Powys bellach wedi cadarnhau bod y ddynes wedi marw yn yr ysbyty.

Mae un dyn 40 oed o'r ardal yn parhau yn y ddalfa mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

'Ymchwiliad i lofruddiaeth'

Cafodd tri dyn arall o ardal Llanbed hefyd eu harestio yn dilyn yr ymosodiad.

Mae un o'r rheiny - dyn 27 oed - wedi'i ryddhau ar fechnïaeth.

Nid oes camau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn y ddau arall - dyn 37 oed a dyn 31 oed.

Ddydd Sul, cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys apêl yn yr iaith Bwyleg ar eu cyfrif Twitter, dolen allanol yn gofyn am wybodaeth.

Dywedodd DCI Anthony Evans: "Mae hyn nawr yn ymchwiliad i lofruddiaeth ac rwyf yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad, waeth pa mor ddibwys mae'n ymddangos, i gysylltu â ni.

"Hoffwn roi sicrwydd i'r cyhoedd nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad."

Mae swyddogion arbenigol yn cynorthwyo teulu'r ddynes ac mae'r crwner wedi cael gwybod.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad roi gwybod i'r heddlu trwy ffonio 101.