Ofcom: 'Dim dylanwad' dros gais Radio Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf Radio

"Ychydig iawn o ddylanwad" sydd gan gyfarwyddwr newydd Ofcom yng Nghymru dros benderfyniad allai olygu cau gorsaf Radio Ceredigion.

Mae perchnogion Radio Ceredigion wedi gofyn am ganiatâd Ofcom i ddarlledu Nation Radio ar donfeddi'r orsaf.

Nhw yw'r unig rai i wneud cais am y drwydded ar gyfer yr ardal.

Yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor celfyddydau a chyfryngau'r Cynulliad, dywedodd Eleanor Marks bod cais newydd Radio Ceredigion ond yn "Gymreig mewn cymeriad".

Un cais i'r ardal

Gofynnodd yr AC Ceidwadol David Melding a oedd cael gwared a chynnwys iaith Gymraeg o Radio Ceredigion yn "cyd-fynd" â'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dywedodd Ms Marks, ddechreuodd ei swydd ym mis Medi: "Ni all Ofcom benderfynu ar beth sy'n mynd i mewn i'r ceisiadau, mae'n benderfyniad ar bwy sy'n cael y drwydded i'r ardal.

"Fel dwi'n deall dim ond un ymgeisydd sydd i'r ardal. Ychydig iawn o ddylanwad sydd am beth sydd yn y cais, a'r hyn all gael ei gymeradwyo."

Penderfynodd Nation Radio beidio ag adnewyddu eu trwydded ar gyfer eleni, gan ddewis gwneud cais o'r newydd i gynnig gwasanaeth "Gymreig mewn cymeriad".

Ond fe fydd y gwasanaeth FM yn darlledu gwasanaethau Nation Radio - sydd heb unrhyw raglenni Cymraeg eu hiaith.

Mewn datganiad wedi'r drafodaeth, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Nation Radio bod Radio Ceredigion wedi "dilyn camau Ofcom er mwyn gwneud cais am drwydded i barhau i ddarlledu ar draws Ceredigion yn y tymor hir".

Ychwanegodd Martin Mumford bod manylion y cais i'w gweld ar wefan Ofcom a bod "y gwasanaeth rydyn ni'n bwriadu ei gynnig i Geredigion, Nation Radio, eisoes i'w glywed dros fwyafrif Cymru".