Leigh Halfpenny allan o dîm Cymru wedi cyfergyd

  • Cyhoeddwyd
Leigh HalfpennyFfynhonnell y llun, Getty Images

Ni fydd Leigh Halfpenny yn chwarae i Gymru yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn oherwydd anaf.

Fe gafodd y cefnwr gyfergyd yn ystod y gêm yn erbyn Awstralia 10 diwrnod yn ôl.

Ddydd Mawrth, dywedodd hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Rob Howley, bod lles y chwaraewr yn "dod gyntaf" wrth wneud penderfyniadau o'r fath.

Mae disgwyl i'r prif hyfforddwr, Warren Gatland, gyhoeddi ei dîm fore Iau.

'Synnwyr cyffredin'

Dywedodd Howley: "Mae Leigh allan. Fe aeth i hyfforddi fore Sadwrn, ond roedd yn dal i deimlo braidd yn benysgafn.

"Mae'n synnwyr cyffredin, mewn gwirionedd. Lles y chwaraewr sy'n dod gyntaf. Yn anffodus, fe fydd yn colli allan y penwythnos hwn."

Ymhlith yr opsiynau eraill i gymryd ei le mae Liam Williams, a sgoriodd dwy gais yn erbyn Tonga'r penwythnos diwethaf, a'r maswr Gareth Anscombe.

Bydd absenoldeb Halfpenny - sydd wedi sgorio 700 o bwyntiau i'w wlad - hefyd yn cynnig cyfle i Anscombe, Dan Biggar neu Rhys Patchell i gamu i'w esgidiau i gicio.

Cadarnhaodd Howley hefyd fod George North yn hyfforddi eto wedi iddo gael anaf i'w goes yn yr ornest yn erbyn y Wallabies.

Mae'r tîm yn gobeithio am eu nawfed buddugoliaeth yn olynol dros y penwythnos - y tro diwethaf llwyddodd y tîm i wneud hynny oedd yn 1999.