Albania: Oeddech chi’n gwybod...?
- Cyhoeddwyd
Wrth i Gymru baratoi i wynebu Albania mewn gêm gyfeillgar nos Fawrth yn Elbasan, dyma saith ffaith ddifyr am y wlad Balcanaidd a'i thîm pêl-droed.
Mae sylwebaeth o'r gêm ar Camp Lawn am 1830 ar Radio Cymru.
1. Mae gan Albania ambell beth yn gyffredin efo Cymru. Mae'n wlad gymharol fychan (28,748 km²; Cymru: 20,735 km²) gyda phoblogaeth o 2.8 miliwn (Cymru: 3 miliwn).
Mae hefyd yn wlad fynyddig - ond mae ei mynydd uchaf Mount Korab bron deirgwaith yn fwy na'r Wyddfa.
Dywed rhai bod gan yr iaith Albaneg gysylltiad â'r ieithoedd Celtaidd.
2. Pan fydd yn camu i'r cae, bydd Chris Gunter wedi chwarae dros Gymru mwy na unrhyw un arall - 93 o weithiau. Dyna hefyd faint o gapiau gafodd Lorik Cana, sy'n dal y record gyfatebol i Albania.
Roedd Cana, oedd yn gapten dros ei wlad yn Ewro 2016, yn chwarae rhwng 2003 a'i ymddeoliad yn 2016.
Mae o rŵan yn hyrwyddo'r gêm ieuenctid ar lawr gwlad yn Albania.
3. Pan fu farw Syr Norman Wisdom yn 2010, ysgrifennodd prif weinidog Albania lythyr o gydymdeimlad i'r teulu ar ran y wlad.
Roedd y comedïwr yn boblogaidd iawn yno gan mai ei ffilmiau o oedd yr unig rai Gorllewinol oedd yn cael eu dangos yno am ddegawdau pan oedd y Comiwnyddion yn rheoli.
4. Ewro 2016 oedd y tro cyntaf i dîm pêl-droed Albania gyrraedd un o brif gystadlaethau pêl-droed.
Er iddyn nhw fynd allan yn y rownd gyntaf, fe gawson nhw groeso mawr a'u trin fel arwyr ar ôl dychwelyd i'r brifddinas Tirana.
5. Roedd y Fam Teresa o dras Albaniaid.
Cafodd ei geni ym mhrifddinas Macedonia, Skopje, a'i thad oedd Nikollë Bojaxhiu, gwleidydd a gŵr busnes Albaniaid wnaeth adeiladu'r theatr gyntaf yn y ddinas a datblygu rheilffordd i Kosovo.
6. Yng Nghwpan y Byd eleni, fe dynnodd dau chwaraewr o'r Swistir nyth cacwn am eu pen ar ôl sgorio yn erbyn Serbia.
Fe wnaeth Granit Xhaka a Xherdan Shaqiri arwydd gyda'u dwylo o symbol Albania - sef eryr gyda dau ben.
Mae teulu'r ddau yn dod o Kosovo, lle gafodd y gymuned Albaniaid oedden nhw'n perthyn iddi ei herlid gan y Serbiaid yn yr 1990au.
Fe wnaeth teulu Shaqiri, sydd nawr yn chwarae gyda Lerpwl, ddianc o Kosovo i'r Swistir fel ffoaduriaid.
7. Er mai ychydig o dan dair miliwn sy'n byw yno, mae hyd at 10 miliwn o Albaniaid yn byw tu allan i'r wlad.
Hefyd o ddiddordeb: