Ateb y Galw: Yr actores Catherine Ayers
- Cyhoeddwyd
Yr actores Catherine Ayers sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Gwion Tegid yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mae'n anodd gwahaniaethu rhwng atgof o ddigwyddiad neu atgof o rhywun yn gweud wrthoch chi am rwbeth ddigwyddodd! A ma' nghof i yn OFNADW!
Ond ma' un digwyddiad yn dod i gof o'r tro cynta 'nath Mam fynd â fi i'r meithrin... dwi'n cofio llefen y glaw a chal fy rhoi ar drampolîn bach wrth ymyl ffenest, a phob tro o'n i'n bownso lan o'n i'n gweld Mam yn pellhau mwy a mwy oddi wrthai a finne'n ffili 'neud dim ond cadw bownso! Ma' 'da fi atgasedd at drampolîns ers hynny!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
O'n i'n ffan MAWR o Neighbours, felly odd y crush yn amrywio o w'thnos i w'thnos rhwng Jason Donavon, Guy Pierce a Craig McLachlan. Ac o'n i hefyd yn dwli ar dîm pêl-droed Tottenham Hotspur... felly o'dd Gary Lineker yn flavour of the month weithe 'fyd!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Clyweliad ar gyfer Mamma Mia ar lwyfan y West End. Ma' pawb sy'n 'nabod i yn gwbod nad ydw i yn ddawnswraig ddawnus iawn, felly roedd gorfod dysgu routine cymhleth a'i pherfformio o flaen mawrion y diwydiant yn HUNLLEF!
Roedd pawb arall yno mewn legins a leg warmers yn edrych yn broffesiynol a finne mewn skinny jeans tynn a ugg boots a methu'n llwyr â chofio DIM ac o leia' curiad tu ôl pawb! O'n i am i'r llawr agor lan a'm bwyta a gweiddi..."FI'N GWBOD BO' FI'N RYBISH!" (Nes i ddim ca'l y rhan!)
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Rhyfedd fel ma'r rhod yn troi... nes i lefen wythnos dwetha wrth adel Albi, fy mab lleia', yn y Cylch Meithrin am y tro cynta'... Do'dd dim trampolîn yn agos, serch hynny!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Tase 'ngŵr i, Ashley, yn ateb y cwestiwn yma, dwi'n siŵr bydde rhestr hirfaith! Arfer drwg gwaethaf? Dwi'n clean freak ac yn casau mess! Felly dwi'n gallu bod yn bach o nag ar Ashley a'r plant!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Abergwili... gytre. Y lle dwi'n gallu dianc o bopeth, yn ôl i freichie saff Mam a Dad.
O archif Ateb y Galw:
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Ma' 'na sawl noson dda wedi bod... rhai na ddylid sôn amdanynt byth!
Ond o ddifri, y noson orau oedd dêt cynta' fi gydag Ashley. Do'dd dim byd arbennig am be' 'nelon ni (diod a sgwrs lyfli yn y dafarn leol) ond mae'n noson arbennig oherwydd o'r eiliad honno, newidodd popeth. Ac yn sgil y noson honno, etifeddes i ddau fab gorjys a rhai blynyddoedd wedyn, dda'th Albi i'r byd.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Penderfynol. Creadigol. Ffyddlon.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Llyfr Dolly Alderton, Everything I Know About Love. Dim ond yn ddiweddar nes i ddarllen y llyfr yma ac o'n i wrth fy modd â hi. Dyma lyfr 'sen i 'di lico sgwennu fy hunan. O'dd hi'n rili siarad 'da menywod fy nghenedlaeth i, ac yn gwneud synnwyr o lot o bethe.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Judi Dench - yn syml, er mwyn gofyn iddi shwt ma' hi mor AMAZING!
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n llyfr agored rili, fel do's dim lot sy'n gyfrinach amdana' i.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Teulio'r diwrnod yng nghwmni teulu a ffrindie - parti mawr gyda digon o fwyd, gwin a jin!
Beth yw dy hoff gân a pham?
Thinking Out Loud, Ed Sheeran. Hon odd cân ein dawns gynta' yn ein priodas felly mae'n dod â holl atgofion y diwrnod arbennig hwnnw yn ôl.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Scallops a chorizo. Rhannu pizza a pasta o Café Citta 'da Ashley. Sticky toffee pudding a chwstard (dim rhannu!).
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Albi! Ma' pawb yn dwli arno fe ac yn 'neud popeth iddo fe. Ac ma' fe'n cal nap o ddwy awr bob prynhawn... be' sydd ddim i lico?!
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Shân Cothi