'Nes i gysgu efo fo yng nghefn ei gar yn Llangefni am heroin'

  • Cyhoeddwyd

Pan oedd hi'n 14 oed, fe wnaeth Siobhan Davies gymryd heroin am y tro cyntaf. O fewn ychydig flynyddoedd roedd y ferch o Ynys Môn yn gaeth ac wedi dechrau gwerthu rhyw i brynu'r cyffur.

Ar raglen Melin Bupur ar Radio Cymru mae Siobhan - sy'n rhydd o gyffuriau ac heb weithio yn y diwydiant rhyw ers 23 mlynedd erbyn hyn - yn dweud ei hanes.

Disgrifiad o’r llun,

Siobhan Davies heddiw

"O'n i mewn parti pan o'n i'n 14.

"Mi o'n i'n ofnadwy o anhapus ar y pryd, mi oedd y berthynas oedd gen i efo Mam a Dad yn anodd iawn a dwi'n cofio'r boi yma yn cynnig heroin i fi ac o'n i jest yn meddwl "wel ia, pam ddim".

"Ac roedd o'n 'neud fi deimlo mor saff… ac roedd o'n 'neud fi stopio boeni am bopeth ac o'n i'n licio fo a nes i ddechrau defnyddio fo'n fwy a fwy aml tan o'n i'n hooked arna fo.

"O'n i'n 15, 16 - ac o'n i'n hooked. Peth trist rili, y peth dwi'n difaru mwyaf amdano fo yn fy mywyd - mwy na dim arall.

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Pan oedd hi'n iau, roedd Siobhan â'i bryd ar fod yn filfeddyg - ond aeth ei bywyd ar chwal ar ôl cymryd heroin pan yn 14

"Ti'n teimlo'n trapped. Mae o'n rheoli dy fywyd di. Ti'n codi yn y bora a meddwl lle dwi'n cael y fix nesa. Os o'n i'n rhedeg allan o'n i'n panicio.

"Ro'n i'n gwybod yn union o'n i'n mynd cold turkey a do'n i ddim eisiau hynny. Mae o'r peth cyntaf ti'n meddwl amdan pan yn codi yn y bora a peth olaf ti'n meddwl am pan ti'n mynd i gwely yn y nos - 'lle dwi'n mynd i gael y fix nesa?'.

Gallwch wrando ar Melin Bupur ar:

  • BBC Sounds

  • Radio Cymru dydd Llun, Tachwedd 26, am 12:30

"Gafodd o effaith mawr iawn ar gwaith ysgol fi. Nes i dropio allan o ysgol hanner ffordd trwy neud Lefel A.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Siobhan Davies yn ystod y cyfnod pan oedd hi'n gweithio ar y stryd

"O'n i methu functionio. O'n i methu codi yn y bore, o'n i mewn stad rili.

"Dwi'n cofio tro cyntaf nes i gysgu efo dyn am gyffuriau. Dealer oedd o. Nes i gyfarfod o mewn pyb yn Llangefni yn trio prynu cyffuriau a doedd gen i ddim pres.

"Dwi'n cofio gaddo idda fo mod i'n mynd i gael y pres i dalu fo a doedd o ddim yn credu fi a dwi'n cofio fo'n dweud "there is another way to pay me" a dyna sut wnaeth o ddechrau.

"Nes i gysgu efo fo yng nghefn ei gar mewn car park yn Llangefni a ges i wrap o heroin - fatha plastig bag bach ac o'n i'n mynd trwy wrap y diwrnod, pob diwrnod ac mi welais i ffordd allan o cold turkey.

"O'n i'n gweld ffordd i mewn i dalu amdana fo.

"Mi roedd 'na dŷ, roedd tua chwech ohona ni'n defnyddio fo ac mi oedd y ddynes yma yn cymryd dwn i'm faint oddi wrtha fi.

"Roedd hi'n cael comisiwn i adael ni i ddefnyddio ei stafelloedd hi lle oedd o'n saffach a dyna be' nes i.

"O'n i'n cyfarfod y dynion yma yn y dre a mynd i fyny i'r tŷ yma ar y stad.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Siobhan Davies yn gweithio yn y diwydiant rhyw er mwyn talu am gyffuriau yn ystod y cyfnod pan dynnwyd y llun yma

"Dwi'n cofio eistedd ar ochr gwely a 'nath y ddynas oedd yn rhedeg tŷ yrru dyn i fyny a nes i ddechrau tynnu dillad fi a wnaeth o ddechrau crio.

"Wrth siarad efo fo nes i ddarganfod bod o wedi colli ei wraig o. Mi roedd o'n chwilio... ddim am gariad, ond am gymorth. Wnaeth o actually talu fi ar ddiwedd hynny.

"Do'n i erioed wedi gweld dyn yn crio o'r blaen ac o'n i jest yn teimlo drosto fo bod o wedi gwneud camgymeriad mewn ffordd o ddod ata fi.

"Ond eto dyna'r unig ffordd oedd o'n medru gweld ffordd allan o'i grief mewn ffordd. Mi gafodd hynny effaith fawr arna fi."

Ar ôl cyfnod yn yr ysbyty fe wnaeth Siobhan ddod i ffwrdd o gyffuriau a rhoi'r gorau i weithio ar y stryd. Mae hi'n rhydd o gyffuriau heddiw a heb weithio yn y diwydiant rhyw ers 23 mlynedd.

Os ydi cynnwys yr erthygl yma wedi effeithio arnoch o gwbl, a'ch bod yn teimlo eich bod angen cymorth, gallwch ffonio llinell wybodaeth Radio Cymru ar 03703 500 600.

Efallai o ddiddordeb: