Y Deml Heddwch ac uchelgais ryngwladol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Teml Heddwch CaerdyddFfynhonnell y llun, Teml Heddwch Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd sylfaenydd y Deml, David Davies, wedi bod yn y rhyfel yn Ffrainc a chydweithio gyda Lloyd George cyn dod i'r casgliad nad oedd rhyfel yn ateb problemau

Allan o'r galar a'r golled wnaeth sobri pobl wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, fe dyfodd ymgyrch dros heddwch yng Nghymru ddaeth i benllanw gyda chodi Teml Heddwch a Iechyd Cymru yng Nghaerdydd, sy'n 80 oed ar 23 Tachwedd 2018.

Roedd yr adeilad i fod yn arwydd o awydd Cymru i fod yn wlad oedd yn arwain y ffordd o ran yr ymgyrch heddwch ar lefel ryngwladol, meddai'r academydd Dr Huw Williams.

Y Barwn David Davies, Aelod Seneddol ac un o feibion bonedd Powys, wnaeth ysbrydoli ac ariannu'r Deml Heddwch.

Efallai y bydd defnyddwyr yr A470 yn gyfarwydd â cherflun o ddyn arall o'r enw David Davies ar ochr y ffordd yn Llandinam: roedd y diwydiannwr cyfoethog yma'n daid i David Davies y Deml Heddwch.

Ffynhonnell y llun, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd David Davies yn frawd i'r chwiorydd Margaret a Gwendoline Davies o Gregynnog wnaeth gasglu'r gweithiau celf sydd yn Amgueddfa Cymru

Pan dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 roedd y David Davies ifanc yn teimlo dyletswydd i gymryd rhan ac aeth ati i greu ei fataliwn ei hun a mynd â'i staff ei hun gydag ef i ymladd.

Mae hyn yn adrodd cyfrolau am y math o berson oedd o yn ôl Dr Huw Williams "bod e wedi dim jyst cynnig ei hun i gymryd rhan yn y rhyfel ond bod e wedi rhoi lot o arian i mewn i'r peth a diddordeb mawr ganddo yn yr arfau a'r technoleg diweddaraf".

Doedd David Davies felly ddim yn dod o gefndir heddychlon, traddodiadol. Ond fe gafodd ei ddadrithio dros gyfnod o dair neu bedair blynedd yn ystod y rhyfel meddai Dr Williams.

Ar ôl cyfnod byr yn Ffrainc, cafodd ei alw nôl gan Lloyd George i fod yn rhan o weinyddiaeth y rhyfel.

"Fel ymgynghorydd i Lloyd George roedd yn un o'r bobl oedd yn gyfrifol am drefnu'r rhyfel am gyfnod," meddai Dr Williams.

Mae ei bapurau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn dangos faint o wybodaeth oedd ganddo am hynt y rhyfel ond hefyd ei "ddadrithiad ynglŷn a'r ffordd roedd yr holl beth yn wastraff adnoddau, gwastraff bywyd," meddai Dr Williams.

'Gwastraffus'

"Dros y cyfnod yma yn arbennig mae rhywun yn gweld ei fod yn gweld bod rhyfel yn beth aflan a gwastraffus ac erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd wedi troi at y syniad bod angen sicrhau, orau gallwn ni, nad ydy rhyfel yn parhau."

Doedd ymgyrchu dros heddwch ddim yn beth newydd yng Nghymru - roedd pobl fel Henry Richard, yr apostol heddwch o Dregaron, yn gwneud hynny yn y 19eg ganrif.

"Roedd Henry Richard yn heddychwr egwyddorol," meddai Dr Williams, "yn yr ystyr ei fod yn gwrthod unrhyw ffurf ar drais a'i bod yn well troi'r boch arall pan mae rhywun yn bygwth eich bywyd.

Ffynhonnell y llun, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y fam i dri milwr, Minnie James, a David Davies yn agoriad y Deml yn 1938. Ar y dde mae'r pensaer Percy Thomas a enillodd wobr Frenhinol am yr adeilad

"Roedd yn credu y gallen ni, maes o law, symud i ryw fath o gymdeithas fyd-eang lle nad yw arfau'n bodoli; ei gred oedd ein bod ni fel bodau dynol yn ddigon rhesymegol yn y pen draw i ddeall taw diarfogi oedd yr hyn oedd raid ei wneud.

Heddychwr 'ymarferol'

"Ond mae David Davies yn wahanol. Doedd e ddim yn gweld ein bod ni'n fodau rhesymol yn hynny o beth a hefyd roedd yn fwy o Galfinydd rhonc na Henry Richard ac yn credu yn y syniad ein bod ni'n anochel yn mynd i greu drwg yn ein bywydau a bod trais yn rhan o hynny.

"Roedd yn teimlo yn y pen draw, os ydych chi'n mynd i gadw trefn ar y lefel ryngwladol mae angen y bygythiad yma o rym anorchfygol," meddai Dr Williams

"Felly roedd ganddo'r weledigaeth yma y byddai'r holl wledydd yma'n penderfynu dod at ei gilydd a gweithredu yn ôl y gyfraith, rhoi'r arfau mwyaf pwerus i'r gyfundrefn ganolog yma a bod heddlu rhyngwladol yn gweinyddu'r gyfraith. Dyna oedd ei weledigaeth ac ar ôl y rhyfel aeth ati i geisio hybu'r achos.

"Ond heddychwr ar sail ymarferol yn hytrach na sail egwyddorol oedd e."

Ffynhonnell y llun, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn nghalon y Deml, mewn claddgell, mae enwau dros 35,000 o filwyr gafodd eu lladd yn y Rhyfel Mawr wedi eu hysgrifennu mewn llyfr

Syniadau tebyg oedd gan Woodrow Wilson, Arlywydd UDA, a geisiodd sefydlu cynghrair y cenhedloedd i gynnal cyfraith ryngwladol ac annog cyflafareddu (arbitration) rhwng gwledydd, sef proses o drafod pan fo anghydfod, yn hytrach na throi at arfau.

Er i gynghrair y cenhedloedd fethu, y math yma o syniadau wnaeth arwain at sefydlu'r Cenhedloedd Unedig.

'Cymru'n arwain y ffordd'

"Fe allen ni edrych ar y Deml Heddwch fel rhyw fath o uchafbwynt i'r gweithgarwch yma," meddai Dr Williams.

Cafodd yr adeilad ei agor yn 1938 gan fam oedd wedi colli tri mab yn y rhyfel, Mrs Minnie James o Ddowlais.

"Roedd gan David Davies a llawer o bobl yn yr un cylch ag e yn y cyfnod y meddylfryd yma fod Cymru yn mynd i arwain y ffordd o ran yr ymgyrch heddwch ar lefel ryngwladol," meddai Dr Williams.

"Mae hyn yn ddiddorol yn ei hunan achos mae Cymru'n dal i fod yn rhan o'r Deyrnas Gyfunol, does ganddi ddim ryw lawer o statws ar y gwastad rhyngwladol ond mae David Davies a'i debyg yn dweud, 'dyma'n cenhadaeth ni, dyma rydyn ni'n mynd i'w gyfrannu at y byd'.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Huw Williams yn ddarlithydd athroniaeth sydd wedi astudio syniadau David Davies wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf

"Felly mae'r canfyddiad yma o Gymru fe cenedl ryngwladol neu genedl sy'n rhoi pwyslais ar ryngwladoledd i raddau helaeth yn gallu cael ei gysylltu gyda phobl fel David Davies a'r cyfnod yma ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.

"Mewn ffordd mi allech chi ddweud taw dyhead ac uchelgais y sawl sy'n gweithio ac ynghlwm â'r Deml Heddwch heddiw yw i geisio cadw at yr egwyddor hynny fod Cymru, yn ei ffordd ei hunan, yn rhan flaenllaw o'r ymdrech heddwch rhyngwladol.

"Yr elfen drasig i'r Deml Heddwch wrth gwrs yw ei fod wedi cael ei godi yn 1938 a'r flwyddyn wedyn roedd Ewrop mewn rhyfel arall..."

Cadw'r fflam yn fyw

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, prif denantiaid y Deml, yn cynnal llu o ddigwyddiadau i ddathlu agoriad yr adeilad a chofio diwedd y Rhyfel Mawr drwy fis Tachwedd 2018.

Maen nhw'n cadw treftadaeth adeiladwyr heddwch Cymru yn fyw meddai Susie Ventris-Field, Prif Weithredwr y ganolfan

"Rydyn ni wedi bod yn cofio'r golled a'r awydd i greu heddwch i'r dyfodol ac edrych ar sut mae Cymru wedi cyfrannu tuag at hynny," meddai.

"I wlad fach mae Cymru wedi chwarae rôl anhygoel o ysbrydolgar - y gwrthwynebwyr cydwybodol, y rhai wnaeth roi lloches i ffoaduriaid Gwlad Belg a'r ddeiseb a arwyddodd traean o fenywod Cymru yn y 1920au, 360,000 ohonyn nhw, yn gofyn i'r Unol Daleithiau ymuno â chynghrair y cenhedloedd i sicrhau heddwch."

Enghreifftiau eraill meddai Susie Ventris-Field yw neges ewyllys da yr Urdd, mudiadau fel Cymru-Cuba a Cymru-Nicaragua, protestwyr Comin Greenham yr 1980au a ddechreuodd yng ngogledd Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru.

Hefyd o ddiddordeb:

Gwybodaeth bellach: