System reoli meddygfeydd teulu yn 'anghynaladwy'
- Cyhoeddwyd
Mae'r system bresennol o fyrddau iechyd yn rheoli meddygfeydd teulu yn "anghynaladwy", yn ôl corff sy'n cynrychioli meddygon.
Rhwng Hydref 2015 a Gorffennaf 2018 roedd 30 meddygfa dan reolaeth byrddau iechyd lleol yng Nghymru.
Dywedodd BMA Cymru a'r meddyg blaenllaw Charlotte Jones fod hyn yn arwain at orwario o £100,000 ar gyfartaledd ym mhob meddygfa.
Oherwydd y gost uchel, dywedodd Llywodraeth Cymru bod well ganddyn nhw ddulliau eraill o reoli'r gwasanaeth lleol.
'Ar ochr y dibyn'
Yn ôl Dr Jones, cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru, mae meddygfeydd "ar ochr y dibyn" gan fod rhai sy'n trin 10% o'r boblogaeth mewn perygl o gau.
Ychwanegodd fod modd dadwneud y tueddiad yma os allai meddygfeydd ddod yn fwy annibynnol yn hytrach na chael eu rheoli gan fyrddau iechyd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Maen nhw [meddygfeydd wedi'u rheoli gan fyrddau iechyd] yn angenrheidiol pan mae partneriaid annibynnol yn rhoi'r gorau i reoli meddygfeydd... er mwyn sicrhau fod y gwasanaeth yn dal ar gael i gleifion."
"Rydyn ni'n gweld tuedd yng Nghymru lle mae llai o feddygfeydd mwy o ran maint, sy'n darparu ystod ehangach o ofal meddygol lleol."
Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth gan y BMA fod un feddygfa yn Sir Ddinbych, Prestatyn Iach, wedi nodi diffygion ariannol o £600,000.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod y feddygfa honno wedi cael ei defnyddio fel esiampl o sut i fodelu gofal iechyd sylfaenol yn y dyfodol.
Ychwanegodd fod rhai agweddau ariannol heb gael eu cynnwys yn y ffigyrau gan nad oedden nhw ar gael ar y pryd - fel gostyngiad ym mhrisiau presgripsiynau a chostau ad-dalu staff a gwelliannau adeiladu.
"Rydyn ni'n parhau i edrych ar bob agwedd er mwyn sicrhau ein bod ni'n arbed arian, tra hefyd yn darparu'r gofal gorau posib i gleifion yng ngogledd Cymru," meddai'r llefarydd, gan nodi y byddan nhw hefyd yn edrych ar ddychwelyd meddygfeydd teulu sy'n cael eu rheoli gan fyrddau iechyd i fod yn rhai annibynnol.
Mae'r bwrdd iechyd wedi cynnal trafodaethau gyda darparwyr yn Wrecsam ac eisoes wedi recriwtio meddygon teulu ym Mhorthmadog a Chriccieth.
Mae problemau recriwtio yn un o'r prif resymau bod rhaid i fyrddau iechyd feddiannu meddygfeydd, gan fod nifer o ddoctoriaid sydd newydd gymhwyso yn dewis gweithio mewn dinasoedd neu'n dewis peidio bod yn feddygon teulu.
Dywedodd Dr Jones fod costau uchel meddygon locwm a gweithwyr meddygol eraill sydd eu hangen i lenwi bylchau yn arwain at ddiffygion ariannol.
Mae meddygon teulu cyffredin yng Nghymru yn ennill rhwng £58,787 a £88,710, tra bod y doctor locwm ar fwyaf o gyflog wedi derbyn £183,000 yn 2015-16.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn bwriadu dychwelyd meddygfeydd sydd wedi'u rheoli gan fyrddau iechyd yn ôl i statws annibynnol, gyda'r cyntaf o'r rheiny yn digwydd yn 2019.
Roedd Aneurin Bevan yn cydnabod gwerth y meddygfeydd annibynnol ond maen nhw'n credu nad yw hyn yn ddigon i fynd i'r afael âr heriau sy'n wynebu meddygfeydd teulu.
Yn ôl Cwm Taf maen nhw wastad wedi bod â'r uchelgais i ddychwelyd eu meddygfeydd i statws annibynnol, ac fe lwyddon nhw wneud hynny gyda dau safle ym mis Hydref.
Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn dweud eu bod nhw eisoes yn ceisio cefnogi meddygfeydd annibynnol, rhywbeth roedd Bwrdd Iechyd Powys hefyd yn ei gefnogi yn llawn, yn ôl llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2018
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd8 Medi 2016