Rhybudd i gefnogwyr rygbi wrth i drenau gael eu canslo
- Cyhoeddwyd
Bydd traean o holl drenau Trafnidiaeth Cymru ddim yn weithredol am dair wythnos o ddydd Llun.
Yn gynharach yn yr wythnos roedd y cwmni wedi dweud bod stormydd diweddar wedi difrodi trenau, a bod 36 allan o'u 127 cerbyd yn cael eu trwsio ar hyn o bryd.
Erbyn ddydd Gwener, dywedodd y cwmni bod mwy na 40 angen eu trwsio.
Bydd llai o drenau yn mynd i mewn ac allan o Gaerdydd ddydd Sadwrn - a hynny ar ddiwrnod gêm rygbi rhyngwladol yn y brifddinas.
Mae posib y bydd rhai trenau yn cael eu gohirio ac y bydd bysus yn cymryd eu lle.
Bydd Cymru yn wynebu De Affrica yn Stadiwm Principality yng ngêm olaf Cyfres yr Hydref eleni.
Mae disgwyl tua 70,000 o gefnogwyr i fynychu'r gêm ddydd Sadwrn - sy'n cychwyn am 17:20.
'Gadael digon o amser'
Bydd lonydd o amgylch canol y ddinas yn cau am 13:45 cyn i giatiau'r stadiwm agor am 14:20.
Ond mae teithwyr yn cael eu rhybuddio gan Trafnidiaeth Cymru - sydd ond yn weithredol ers tua mis - y bydd llai o le ar gael ag hithau'n ddiwrnod digwyddiad mawr.
Bydd mesurau diogelwch llymach mewn lle tu allan i'r stadiwm oherwydd cynnydd yn lefel bygythiad terfysgol y DU.
Mae cefnogwyr yn cael eu hannog i deithio i'r ddinas yn fuan ac i beidio disgwyl am y trên olaf gartref.
Mae Undeb Rygbi Cymru yn annog cefnogwyr i "adael digonedd o amser i fynd mewn i'r ddinas ac i'r stadiwm".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2018