Gorchmynion gagio porthladdoedd yn 'chwerthinllyd'
- Cyhoeddwyd
Mae porthladdoedd Cymru wedi cael eu gorfodi i lofnodi gorchmynion gagio fel rhan o drafodaethau Brexit gyda Llywodraeth y DU.
Mewn llythyr at bwyllgor Brexit y Cynulliad, dywedodd llywodraeth San Steffan ei fod yn "arfer cyffredin" i gynnal "rhai sgyrsiau ar delerau cyfrinachol".
Dywedodd y Gweinidog Brexit Robin Walker fod cytundebau 'peidio a datguddio' (NDAs) yn ei gwneud hi'n "haws" i borthladdoedd "rannu gwybodaeth fasnachol sensitif" wrth drafod paratoadau Brexit.
Yn ôl Plaid Cymru, mae'r honiad yn "du hwnt o chwerthinllyd".
Ychwanegodd llefarydd Brexit y blaid yn y Cynulliad, Steffan Lewis: "Pam y byddai angen i unrhyw borthladd lofnodi NDA er mwyn atal ei hun rhag rhyddhau gwybodaeth a allai niweidio ei fuddiannau ei hun?"
Mae Mr Lewis yn aelod o bwyllgor Brexit y Cynulliad a glywodd dystiolaeth gan Mr Walker ym mis Hydref ar baratoadau'r llywodraeth ar gyfer ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.
Rhoddodd Mr Walker "wybodaeth ychwanegol ar rai meysydd" mewn llythyr i'r pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.
Ar y defnydd o NDAs, dywedodd fod grŵp Llywodraeth y DU sy'n cynllunio ar gyfer newidiadau ar y ffin o ganlyniad i Brexit yn cynnal trafodaethau gyda chynrychiolwyr o borthladdoedd Cymru a Maes Awyr Caerdydd "o dan NDA sydd yn arfer cyffredin".
Ychwanegodd Mr Walker: "Fel rhan o waith cynllunio ar gyfer y ffin, mae'r llywodraeth wedi defnyddio cytundebau o'r fath ar gyfer grwpiau llywio gan ei fod yn ei gwneud hi'n haws i'r rhai sy'n mynychu rannu gwybodaeth fasnachol sensitif gan y gallant fod yn sicr o'r telerau fydd yn cael eu defnyddio.
"Mae'r dull hwn felly'n caniatáu bod cwmnïau'n gallu rhannu barn yn rhwyddach ynghylch opsiynau ac effeithiau posibl cyn bod yna bolisi sefydlog.
"Rhagwelir y byddwn ni'n defnyddio llai o NDAs fel rhan o'r grwpiau llywio hyn wrth i wybodaeth gynyddol cael ei chyhoeddi'n gyffredinol."
'Atal dyfalu'
Cadarnhaodd aelod o Grŵp Llywio Porthladdoedd a Meysydd Awyr Cymru bod Llywodraeth San Steffan wedi "gofyn" iddynt arwyddo NDA.
Ychwanegodd y ffynhonnell ei fod yn atal "dyfalu oherwydd y bydd peth o'r hyn sy'n cael ei drafod yn cael ei wrthod" a "nad yw unrhyw beth dwi wedi'i glywed yn awgrymu 'Armagedon'".
Mae'n dilyn honiadau gan gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru bod e wedi cael ei gagio rhag rhybuddio pobl am fygythiad posibl i ddiogelwch a chyfraith yn sgil Brexit heb gytundeb.
Mae papur newydd The Times hefyd wedi adrodd ar y defnydd helaeth o NDAs gan lywodraeth San Steffan, gan gynnwys rhai gan gwmnïau cyffuriau sy'n trafod cynlluniau ar gyfer Brexit heb gytundeb.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oeddent wedi defnyddio unrhyw gytundebau peidio a datguddio.
Yn gynharach ym mis Tachwedd, dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, nad yw porthladdoedd Cymru yn barod i ddelio ag effaith Brexit heb gytundeb.
'Bygythiad difrifol'
Ddydd Llun, fe fydd pwyllgor Brexit y Cynulliad yn cyhoeddi adroddiad sydd yn dweud y byddai Brexit heb gytundeb "yn fygythiad difrifol i borthladdoedd yng Nghymru".
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, David Rees AC: "Fe wnaethom ni ddarganfod bod angen newid sylweddol yng ngweithgaredd Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi'r sector i baratoi ar gyfer unrhyw fargen Brexit.
"Os bydd ein hofnau gwaethaf o oedi a gwiriadau newydd mewn porthladdoedd Cymru fel Caergybi ac Abergwaun yn cael eu gwireddu, bydd angen i Gymru gael cynlluniau manwl i reoli'r broses yna.
"Dyna pam yr ydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi manylion unrhyw gynlluniau wrth gefn i reoli traffig, gan gynnwys amlinellu pa seilwaith newydd fyddai ei angen."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein safbwynt ni yn glir... mae'n rhaid i Lywodraeth y DU sicrhau fod y DU i gyd yn parhau fel rhan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau.
"Byddai hynny'n golygu osgoi ffiniau masnach newydd ac isadeiledd tollau newydd yn ein porthladdoedd. Mae'r materion yma yn parhau yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU."
Fe wnaeth arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd roi sêl bendith i'r cytundeb Brexit mewn uwchgynhadledd arbennig ym Mrwsel ddydd Sul.
Ond mae Brexit heb gytundeb dal yn bosibilrwydd oherwydd nad oes sicrwydd y bydd Theresa May yn gallu cael digon o gefnogaeth i'r fargen yn Nhŷ'r Cyffredin.
Mae disgwyl y bydd yna bleidlais yn y Senedd ar hynny ddechrau Rhagfyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd4 Awst 2017