Iechyd meddwl: Mamau newydd yn cefnogi ei gilydd

  • Cyhoeddwyd
Nikki Jones and Stacey Powell
Disgrifiad o’r llun,

Nikki Jones a Stacey Powell sefydlodd y grŵp cefnogi

Mae criw o famau ym Mhowys wedi sefydlu grŵp er mwyn cefnogi ei gilydd i ddygymod â phroblemau iechyd meddwl sydd gan rai yn sgil genedigaeth.

Mae'r grŵp Mums Matter ar y cyd ag elusen Mind Cymru yn annog mamau i drafod materion fel hunanhyder yn ogystal â rhai o'r rhagdybiaethau ynglŷn â mamolaeth o gymharu â'r realiti.

'Angen dathlu bod yn fam'

Mae unigrwydd mewn mamolaeth yn thema gyson ymhlith y rhieni, sydd, o bosib, yn cael ei waethygu oherwydd eu bod yn byw mewn ardal wledig.

Nododd adroddiad ar iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â mamolaeth yng Nghymru mai Powys oedd yr unig un o'r saith bwrdd iechyd yng Cymru heb wasanaeth iechyd meddwl i famau newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Tracy Lewis o Mind Cymru sefydlodd y rhaglen Mums Matter ym Mhowys

Mae rhannau o'r cynllun yn edrych ar drawma genedigaeth ond mae yna bwyslais hefyd ar geisio peidio peri gofid i ferched sy'n feichiog am y tro cyntaf.

Mae sefydliadau sy'n cynnig cyngor ariannol neu wasanaethau iechyd yn dod i siarad â'r menywod hefyd.

Dywedodd Trac Lewis o Mind Cymru, sy'n rhedeg y cwrs: "Dim ond dechrau gwella mae pethau o ran y stigma. Mae pobl yn ofni dweud unrhyw beth weithiau oherwydd maen nhw'n meddwl 'maen nhw'n mynd i fynd â'm babi i ffwrdd'.

"'Dyn ni am i famau ddeall pa mor gyffredin yw hi i weld pethau'n anodd."