Caerdydd ddim am gynnal unrhyw gemau Euro 2020

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Getty Images

Ni fydd unrhyw gemau pencampwriaeth Euro 2020 yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, wedi i Gymdeithas Bêl-droed Cymru fethu yn eu cais i UEFA.

Fe wnaeth y trefnwyr ffafrio Llundain, fydd nawr yn cynnal saith gêm yn hytrach na'r tair oedden nhw i fod i gynnal yn wreiddiol.

Fe fydd y gystadleuaeth ymhen tair blynedd yn cael ei chynnal mewn sawl stadiwm ar draws Ewrop yn hytrach na mewn un wlad.

Roedd y gymdeithas wedi gwneud cais i fod yn un o'r dinasoedd gwreiddiol i gynnal gemau, ond ni chafodd Stadiwm Principality ei dewis ar y pryd.

Ond yn dilyn trafferthion yng Ngwlad Belg, ni fydd stadiwm newydd - yr Eurostadium yn Grimbergen - yn barod mewn pryd ar gyfer y gystadleuaeth, er eu bod wedi cael eu dewis fel un o'r dinasoedd i gynnal gemau.

Oherwydd hynny fe gafodd Caerdydd, Llundain a Stockholm gyfle i gynnig eto i gynnal y gemau hynny.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ei gynnal yn y stadiwm ym mis Mehefin

Fe benderfynodd trefnwyr y gystadleuaeth ddydd Iau mai Llundain fydd yn cynnal y pedair gêm oedd ar gael.

Roedd Wembley eisoes wedi ei ddewis i gynnal y ddwy gêm yn y rownd gyndrefynol a'r rownd derfynol ei hun.

Ond nawr bydd tair gêm grŵp ac un gêm yn rownd yr 16 olaf hefyd yn cael eu chwarae yno.

Roedd dau benderfyniad gan UEFA i'w wneud ddydd Iau - a fydd y stadiwm gwreiddiol yn barod mewn pryd, ac os ddim, pwy ddylai gynnal y gemau yna?

Roedd awdurdodau Gwlad Belg wedi cael nes 20 Tachwedd i berswadio UEFA eu bod wedi cymryd camau digonol i gadw'r gemau yn yr Eurostadium, ond wedi methu gwneud hynny.

'Siomedig iawn '

Mae Caerdydd wedi cynnal tri digwyddiad UEFA dros y pedair blynedd diwethaf - rownd derfynol y Super Cup yn 2014, a rowndiau terfynol y dynion a'r merched yng Nghynghrair y Pencampwyr eleni.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod yn "siomedig iawn" gyda phenderfyniad UEFA.

"Y bwriad o gynnal gemau Euro 2020 UEFA mewn 13 gwlad wahanol oedd rhoi cyfle i wledydd bach, fel Cymru, i chwarae rhan yn llwyfannu un o dwrnameintiau chwaraeon mwyaf y byd," meddai'r gymdeithas mewn datganiad.

"Nid yw Cymru erioed wedi cynnal gêm derfynol Cwpan y Byd neu Euro, a dyma oedd y cyfle gorau i wneud hynny.

"Fe wnaeth CBDC gydymffurfio â holl ofynion y cais ac rydym wedi ysgrifennu at UEFA i ofyn am adborth ar y penderfyniad fel y gallwn ddeall y rhesymau y tu ôl i'r bleidlais er gwybodaeth."

Dywedodd y gymdeithas y bydd nawr yn canolbwyntio ar sicrhau bod y tîm cenedlaethol â'r cyfle gorau posib i gyrraedd y bencampwriaeth yn 2020.