Estyn: Safon ysgolion cynradd wedi gwella
- Cyhoeddwyd
Mae safon ysgolion cynradd wedi gwella ond dim ond hanner yr ysgolion uwchradd gafodd eu graddio yn dda neu yn arbennig y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl arolygwyr.
Mae Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Estyn, Meilyr Rowlands, wedi dweud fod y gwelliannau yn "galonogol" gydag wyth allan o 10 ysgol gynradd wedi'i graddio'n dda neu well.
Ond dywedodd fod angen gwneud mwy i gynorthwyo ysgolion sy'n "achosi pryder".
Fe wnaeth arolygwyr ganfod nad yw'r mwyafrif o ddisgyblion yn datblygu eu dealltwriaeth na'u sgiliau'n ddigon da, na chwaith yn gwneud unrhyw gynnydd mewn hanner o'r ysgolion uwchradd.
'Gwendid yn y dysgu'
Mae'r dadansoddiad wedi'i gyhoeddi yn adroddiad blynyddol Estyn, sydd wedi'i seilio ar arolygon ysgolion blwyddyn academaidd 2017/18.
Mae nifer yr ysgolion cynradd sy'n cael eu hystyried yn arbennig wedi dyblu ers y llynedd: o 4% i 8%.
Yn ôl y canlyniadau mae nifer yr ysgolion uwchradd sydd wedi'u graddio'n dda neu'n well wedi aros yr un fath.
Mae'r adroddiad yn dweud mewn hanner yr ysgolion uwchradd fod:
Gwendid yn y dysgu ac asesu;
Diffyg cysondeb yn yr arweinyddiaeth;
Nad yw'r rhan fwyaf o'r disgyblion yn llwyddo yn ôl eu gallu erbyn iddyn nhw gyrraedd oed ysgol orfodol.
Mae lles disgyblion yn cael ei adnabod fel cryfder mewn ysgolion cynradd ac fe gafodd bron y cyfan eu graddio'n dda neu'n wych yn yr ardal yma.
Ond mae'r adroddiad yn nodi fod angen gwella safon y dysgu i fod yn dda ar draws dosbarthiadau o fewn ysgolion.
Roedd 13 allan o 27 ysgol uwchradd gafodd eu harolygu yn 2017/18 angen ail arolwg gan Estyn gan gynnwys dau gafodd eu gosod mewn mesurau arbennig.
'Angen gwella nawr'
Dywedodd Mr Rowlands ei fod yn "galonogol bod ni wedi gweld gwelliant eleni yn yr ysgolion cynradd yn benodol, lle mae safonau'n dda".
Ond ychwanegodd fod "angen gwella nawr yn enwedig o ran yr ysgolion hynny sy'n achosi pryder a dwi'n meddwl ei fod yn bwysig bod gyda ni gynllun i fynd i'r afael gyda hynny".
"Un o'r pethau fyddai'n eu helpu nhw byddai gwneud yn siŵr bod yr asiantaethau sydd yn helpu ysgolion yn dod at ei gilydd i greu un cynllun sy'n medru, ar y cyd, helpu'r ysgolion wella," meddai.
"Dwi'n credu bod angen cael gwell cyd-gordio o'r cymorth sydd ar gael ar gyfer yr ysgolion yna..."
Mae Mr Rowlands yn dweud ei fod yn disgwyl gweld newid mewn safonau unwaith bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei weithredu yn 2022.
"Yn y cyfamser, dwi'n credu bydd y gwelliannau bychain yr ydym wedi'i weld y flwyddyn yma o ran canlyniadau arolygon yn dangos ein bod ar y trywydd iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2018
- Cyhoeddwyd15 Medi 2018
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2018