Prif arolygydd Estyn yn 'obeithiol' am newidiadau
- Cyhoeddwyd
Mae'r addysg yn ysgolion Cymru wedi gweld "rhai gwelliannau bychan" ond dim ond ar ôl i ddiwygiadau gael eu gweithredu y bydd yna gamau sylweddol, yn ôl y prif arolygydd ysgolion.
Y cwricwlwm newydd sydd wrth wraidd y newid mwyaf i addysg ers degawdau, meddai Meilyr Rowlands.
Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd bod newid diwylliant wedi bod, sydd wedi gweld mwy o gydweithio rhwng ysgolion.
Ond ychwanegodd y byddai'n rhaid i rieni aros tan 2022 i weld cynnydd arwyddocaol, ar ôl i'r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno.
Dywedodd Mr Rowlands ei fod yn obeithiol am y newidiadau, sydd fod i weddnewid yr hyn sy'n cael ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth.
Fel rhan o'r cwricwlwm newydd bydd meysydd dysgu ehangach yn cael eu cyflwyno, gyda sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol wrth wraidd y dysgu.
'Y newid mwyaf'
"Does dim modd tanbrisio pa mor sylweddol yw'r newid hwn. Dyma'r newid mwya' mewn addysg yng Nghymru yn ystod fy ngyrfa," meddai.
"Rydyn ni wedi gweld rhai gwelliannau ond er mwyn gweld newid mawr, mae angen i ni weld yr holl ddiwygiadau mewn lle.
"Felly da ni'n sôn am 2022 - pan fydd y cwricwlwm yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion".
Dywedodd Mr Rowlands hefyd bod angen cydbwysedd rhwng sicrhau bod rhieni, cymunedau ac athrawon yn gweld cynnydd heb roi gormod o bwysau ar y system.
Wrth drafod ariannu ysgolion, dywedodd Mr Rowlands mai "nid lefel y cyllid yw'r ffactor pwysicaf i lwyddiant system addysg", a byddai'n well cadw lefel gyffredinol y gyllideb yn gyson.
"Rwy'n sicr yn meddwl y byddai cysondeb cyllido yn rhywbeth i'w anelu ato."
Dywedodd hefyd bod rhai mesurau perfformiad oedd yn canolbwyntio ar ganlyniadau TGAU wedi cael "canlyniadau anfwriadol" - sef rhoi gormod o bwyslais ar ddisgyblion i gael gradd C.
'System fwy trylwyr'
Wrth groesawu'r broses o gael "un set o fesurau" dywedodd bod angen system drylwyr i gadw ysgolion yn atebol, gyda'r bwriad o sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n briodol a bod y cyhoedd yn "sicr bod y system addysg yn gweithio'n iawn".
Yn gynharach eleni fe wnaeth adolygiad o waith Estyn argymell symud at drefn lle mae mwy o ysgolion yn gwerthuso eu hunain, ac mae Mr Rowlands yn gwadu y gallai arwain at ostwng safonau.
"Mewn sawl ffordd mae'n cryfhau atebolrwydd gan eich bod chi'n creu system hunan arfarnu, mae hynny'n system fwy trylwyr na'r un sydd gyda ni ar hyn o bryd," meddai.
Roedd yr adolygiad hwnnw hefyd yn argymell bod arolygiadau ysgolion yn cael eu hatal am flwyddyn i helpu gyda'r broses o gyflwyno'r diwygiadau, ond dywedodd Mr Rowlands nad oedd hyn yn debygol o ddigwydd cyn Medi 2019.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd23 Awst 2018