Deiseb cleifion canser y prostad am sgan yn lle biopsi

  • Cyhoeddwyd
Celloedd canser y prostadFfynhonnell y llun, Llyfrgell Lluniau Gwyddonol

Bydd deiseb yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru ddydd Mercher i alw am newidiadau i'r drefn o roi diagnosis canser y prostad.

Ar hyn o bryd, dim ond tri o'r saith bwrdd iechyd sy'n cynnig sgan MRI amlberametrig (mpMRI) cyn biopsi.

Mae ymgyrchwyr yn dweud bod y sgan yn llai poenus ac yn fwy cywir.

Ond dywedodd y llywodraeth nad ydy'r sefydliad iechyd NICE yn argymell rhoi'r sgan yn gyntaf ar hyn o bryd.

Mae Alwyn ap Huw o Lansanffraid Glan Conwy wrthi'n cael triniaeth radiotherapi am ganser y prostad.

Y drefn yn yr ardal hon, sydd dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yw rhoi biopsi'n gyntaf i brofi'r diagnosis.

'Ofnadwy o boenus'

Cafodd Mr ap Huw fiopsi, ond gan ei fod hefyd yn byw ag epilepsi, penderfynodd y meddygon atal y prawf ar ei hanner rhag iddo gael ffit.

Y ffordd amgen o ddod at ddiagnosis oedd mynd am sgan mpMRI yn Ysbyty Gwynedd.

"Dwi ddim yn meddwl 'mod i wedi brifo cymaint yn fy mywyd," meddai am y biopsi, "a dim ond ychydig bach o'r prawf gefais i.

"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael rhwng 10 a 12 pigiad, a dim ond trio rhoi tri wnaethon nhw i mi. Roedd o'n ofnadwy o boenus."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y biopsi yn 'ofnadwy o boenus', medd Alwyn ap Huw

Mewn rhannau eraill o Gymru, mae'r sgan yn cael ei gynnig yn gyntaf. Yn ôl deiseb yr ymgyrchwyr, mae manteision i'r sgan o ran gwella diagnosis ac osgoi heintiau posib yn ogystal.

O'r herwydd, mae rhai cleifion yn penderfynu talu am sgan mewn clinig preifat, sy'n costio tua £1,000 fel arfer.

Mae'r anghysondeb rhwng byrddau iechyd Cymru yn gwylltio Mr ap Huw.

"Mae o'n warthus, a dweud y gwir. Pe bawn ni wedi cael diagnosis, dywedwch, yn ardal Abertawe, 'swn i heb gael y biopsi o gwbl, 'swn i wedi mynd yn syth i sgan.

"Mi ydw i'n flin efo Llywodraeth Cymru eu bod nhw heb roi'r peiriannau gorau a mwyaf addas i gleifion yng ngogledd Cymru."

Adolygu canllaw

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid yw defnyddio MRI amlbarametrig cyn biopsi ar y prostad yn rhywbeth sy'n cael ei argymell ar hyn o bryd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).

"Mae'r canllaw perthnasol wrthi'n cael ei adolygu ac mae'r byrddau iechyd yn cydweithio i baratoi ar gyfer newidiadau posib i'r dull archwilio lle bo amheuaeth o ganser y prostad."

Mae'r ymgyrchwyr wedi casglu bron i 6,000 o lofnodion o blaid rhoi sgan yn gyntaf.

Bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i ACau tu allan i'r Senedd ddydd Mercher, ac mae disgwyl i'r Pwyllgor Deisebau drafod y cynnig ar 11 Rhagfyr.