Clwb Rygbi Castell-nedd yn wynebu deiseb dirwyn i ben
- Cyhoeddwyd
Mae clwb cefnogwyr Clwb Rygbi Castell-nedd yn dweud ei bod hi'n "dorcalonnus" gorfod cyfaddef eu bod nhw eisiau gweld y clwb yn cael ei ddirwyn i ben.
Bydd deiseb dirwyn i ben yn erbyn y clwb, sy'n masnachu dan yr enw Neath Rugby Cyf, yn cael ei chyflwyno yng Nghanolfan Cyfiawnder Caerdydd ddydd Iau.
Aeth Castell-nedd i drafferthion ariannol yn dilyn cwymp cwmni adeiladu Cuddy, sy'n eiddo i berchennog y clwb Mike Cuddy.
Dywedodd gefnogwyr y Crysau Duon fod ganddyn nhw'r "ymroddiad, y gallu a'u bod nhw'n ddigon penderfynol" i feddiannu'r clwb a'i wneud yn llwyddiannus unwaith eto.
Mae cais wedi cael ei wneud i Mr Cuddy am ymateb.
Ar hyn o bryd mae Castell-nedd ar waelod Uwch Gynghrair y Principality gyda dim ond un fuddugoliaeth y tymor hwn.
Dywedodd Dawn Williams, is-gadeirydd y clwb cefnogwyr ei bod hi wedi gweld y da, y drwg a llwyddiant hanesyddol y clwb, ond fod yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn "anghrediniol".
"Yn y stadiwm yma y mae fy nghalon... pan 'dwi'n gwaedu, dwi'n gwaedu'n ddu."
Yn ystod y 46 mlynedd y mae Ms Williams wedi cefnogi'r clwb mae hi wedi bod yn dyst i drafferthion ariannol a deisebau dirwyn i ben eraill "ond dyma'r tro cyntaf yr ydyn ni'n gobeithio gweld y rhai sydd eisiau cau'r clwb i lawr yn ennill," meddai.
Er bod yr is-gadeirydd yn diolch i Mr Cuddy am ei gymorth a'i fuddsoddiad yn y clwb, mae hi'n mynnu ei bod hi'n amser iddo adael.
Fe aeth cwmni adeiladu Cuddy i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Gorffennaf, gyda'r perchennog yn rhoi'r bai ar broblemau iechyd a'r ffaith fod neb wedi camu mewn i helpu i arwain y busnes.
Ar y pryd fe ddywedodd Mr Cuddy wrth gefnogwyr na fyddai'r problemau hyn yn cael effaith negyddol ar y clwb.
'Poenus iawn'
Yn ôl Gerald Morris, sy'n gyfrifol am adran lletygarwch y clwb, mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn "boenus iawn" i bawb sydd yn ymwneud â'r Crysau Duon.
"Os yw'r gwrandawiad yn llwyddiannus yna mae'r ymroddiad, y gallu a'r gefnogaeth gennyn ni, ac rydyn ni'n ddigon penderfynol i ailadeiladu'r clwb er mwyn gallu bod yn llwyddiannus unwaith eto yn y dyfodol."
Ychwanegodd fod cefnogwyr yn llunio "cynllun achub" ar gyfer y clwb a bod yna gonsortiwm o fuddsoddwyr fyddai'n barod i ymateb os fydd Castell-nedd yn dirwyn i ben.
'Caru'r clwb'
Mewn datganiad wythnos ddiwethaf, dywedodd Mr Cuddy ei fod yn dal i "garu'r clwb" a'r "gwir gefnogwyr" er gwaethaf sylwadau sarhaus yn ei erbyn.
Roedd y perchennog yn bwriadu ailadeiladu'r clwb yn ei fformat presennol ond roedd yn rhagweld gorfod gwneud hynny o gynghrair is.
Mae ei iechyd yn parhau yn "hynod o fregus" meddai, ond roedd yn cynnig cwrdd â chefnogwyr unwaith yr oedd ei iechyd yn caniatáu hynny.
Dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot eu bod nhw wedi mynegi "pryder difrifol" am ddyfodol y clwb, gan ychwanegu ei bod hi'n amser i "ddechrau o'r newydd".
Yn ôl yr awdurdod lleol, sy'n berchen ar stadiwm y clwb, y Gnoll, y flaenoriaeth nawr yw "sicrhau fod rygbi'r Uwch Gynghrair yn parhau ar y safle".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2018