Rhydychen: 'Darn bach o Gymru ynghanol Lloegr'

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Rhydychen
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 400 o ddisgyblion o Gymru yn ceisio am le ym Mhrifysgol Rhydychen bob blwyddyn

"Ry'n ni wedi bod yn ceisio codi arian ond does dim byd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar."

Dyma ddywedodd adran Ieithoedd Modern Coleg yr Iesu ym Mhrifysgol Rhydychen wrth Cymru Fyw yn 2016.

Tu ôl i'r llenni, roedd pryder gwirioneddol ar y pryd am ddyfodol y cwrs Astudiaethau Celtaidd yno.

Roedd y targed o £3.25m yn ymddangos fel un annhebygol, bron yn amhosib i'w gyrraedd.

Ond ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'r ymgyrch i godi arian wedi cyrraedd y nod ac mae'r cwrs - yn ei ffurf lawn - yn mynd i ddychwelyd yn y ddwy neu dair blynedd nesaf.

Daeth yr ariannu gan y brifysgol i ben yn dilyn ymddeoliad yr Athro Thomas Charles-Edwards ym mis Medi 2011.

Ychydig flynyddoedd wedyn, fe ddaeth y cwrs Astudiaethau Celtaidd llawn i ben gyda'r Coleg yn atal ceisiadau gan fwy o fyfyrwyr.

Ond mae'r berthynas rhwng y Coleg yn dyddio nôl canrifoedd.

Cafodd Coleg yr Iesu ei sefydlu gan Hugh Price (neu Hugh ap Rhys), cyfreithiwr o Aberhonddu, yn 1571.

Cymro hefyd - John Rhŷs - oedd Athro Celteg cyntaf Prifysgol Rhydychen yn 1877.

Ymhlith y Cymry Cymraeg i astudio Celteg yno mae T H Parry Williams, Bedwyr Lewis Jones, R Geraint Gruffydd, Derec Llwyd Morgan, Medwin Hughes, Kathryn Jenkins, Huw Meirion Edwards ac Angharad Price.

Ffynhonnell y llun, Wicipedia
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro John Rhŷs

Roedd Daniel Taylor yn ofni mai ef fyddai'r myfyriwr olaf i wneud Astudiaethau Celtaidd yng Ngholeg yr Iesu.

Er iddo gael ei fagu a'i addysgu yn Abertawe, doedd o ddim yn medru'r Gymraeg tan iddo gyrraedd Rhydychen.

"Oni bai am y cwrs Celtaidd ym Mhrifysgol Rhydychen byddwn i ddim yn gallu siarad y Gymraeg," meddai.

"Yn ystod y cwrs dwi wedi astudio pedair cainc y Mabinogi, Culhwch ac Olwen, Peredur, cerddi Dafydd ap Gwilym a cherddi modern hefyd.

"Ro'n i'n meddwl fy mod i'n mynd i fod yr un olaf i astudio'r Geltaidd, ond mae 'na obaith yma nawr am ddyfodol y pwnc.

"Mae'n gwrs unigryw a byddai ei golli [wedi bod] yn erchyll."

Hefyd o ddiddordeb:

Doedd Dr Mark Williams ddim chwaith yn siarad Cymraeg tan iddo ddechrau astudio Cymraeg ganol oesol a hen lenyddiaeth Cymru yn ei gyfnod yn y brifysgol.

Er gwaetha'r ffaith nad oes ganddo unrhyw gysylltiad uniongyrchol â Chymru, mae bellach yn rhugl yn y Gymraeg ac yn dysgu Astudiaethau Celtaidd - neu elfennau o'r cwrs - yn Rhydychen.

"Mae'n adnoddau fan hyn yn gyfoethog iawn," meddai. "Mae gynnon ni Lyfr Coch Hergest, dolen allanol a dwy lyfrgell sy'n llawn - gallen ni gefnogi 10 o fyfyrwyr ôl-raddedig os gawn ni'r Gadair yn ôl.

"Dwi'n meddwl fod y rhoddion ariannol yn dangos jest pa mor arwyddocaol yw'r Gadair Geltaidd ac astudiaethau am Gymru yma - yn yr hyn sydd, mewn gwirionedd, yng nghalon Lloegr - y darn bach o Gymru ynghanol Lloegr."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Matt Williams bod y cysylltiad rhwng Coleg yr Iesu a Chymru yn "haearnaidd"

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cynllun Rhwydwaith Seren gan Lywodraeth Cymru, wedi ceisio cael prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt i gynnig mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr o Gymru.

Fel rhan o'r cynllun, mae Rhydychen bellach yn cynnal ysgolion haf - cyfle i fyfyrwyr o Gymru fynd yno i weld y cyfleusterau a'r ffordd o fyw.

O'r 74 disgybl aeth i'r ysgol haf yn 2018, fe wnaeth 41 wneud cais i Rydychen, a 13 ychwanegol yn gwneud cais i Goleg yr Iesu.

Dywedodd yr Athro Matt Williams, sy'n cydlynu'r prosiect ar ran Prifysgol Rhydychen: "Mae'r cysylltiad rhwng y Coleg a Chymru yn haearnaidd ac rydym yn falch iawn o hynny.

"Mae myfyrwyr o Gymru yn cael eu tangynrychioli ym Mhrifysgol Rhydychen ar y cyfan, ac rydym ni'n gwneud ein gorau i newid hynny."

Yn 2016, dywedodd yr academydd Dr Juliette Wood, cyn-fyfyrwraig yng Ngholeg yr Iesu sydd bellach yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, y byddai hi'n "siom enfawr" pe bai'r cyrsiau Celtaidd yn diflannu.

"Yn anffodus, y cyrsiau lleia' hynny sy'n gorfod dod i ben," meddai bryd hynny.

Ond, am y tro o leiaf, mae dyfodol y cwrs yma'n saff.