Codi £3m i ailgychwyn Astudiaethau Celtaidd yn Rhydychen
- Cyhoeddwyd
Yr Athro Medwin Hughes: Buddsoddiad £500,000 yn "gyfle i adeiladu perthynas academaidd... er budd y Gymraeg"
Mae coleg ym Mhrifysgol Rhydychen wedi cadarnhau bod mwy na £3.25m wedi'i godi i ailsefydlu'r cwrs Astudiaethau Celtaidd yno.
Roedd yr adran Ieithoedd Modern yng Ngholeg yr Iesu yn lled-ddibynnol ar gyfraniadau ariannol - yn bennaf gan gyn-fyfyrwyr - i achub y cwrs.
Daeth £500,000 gan Brifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant - un o'r cyfraniadau mwyaf yn yr ymgyrch i achub y 'Gadair Geltaidd'.
Dywedodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant y byddan nhw'n datblygu "cynghrair strategol gyda Choleg yr Iesu" dros gyfnod o bum mlynedd er mwyn "meithrin cyfleoedd newydd i hyrwyddo Astudiaethau Celtaidd a Chymreig".
Fe ddiolchodd yr Athro Syr Nigel Shadbolt, pennaeth Coleg yr Iesu, yn benodol i Is-ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a chyn-fyfyriwr yng Ngholeg yr Iesu, yr Athro Medwin Hughes.
"Diolch i gefnogaeth cyn-fyfyrwyr hael a ffrindiau, ac yn arbennig yr Athro Medwin Hughes, mae'r Gadair hon wedi'i hachub," meddai.
Dywedodd yr Athro Hughes: "Mae hwn yn gyfle i ddathlu yr hyn rydyn ni'n ei wneud yn dda yng Nghymru a'i blethu o gyda thraddodiadau Coleg yr Iesu a Phrifysgol Rhydychen."

Dywedodd yr Athro Mark Williams y byddai colli'r cwrs wedi bod yn "golled enfawr"
Mae Cymry wedi gwneud gwaith ymchwil ôl-raddedig ar y Gymraeg a'i llenyddiaeth o dan yr Athro Celteg - neu'r Gadair Geltaidd - yn y brifysgol ers bron i ganrif a hanner.
Ond daeth yr ariannu gan y brifysgol i ben yn dilyn ymddeoliad yr Athro Thomas Charles-Edwards ym mis Medi 2011.
'Dwy neu dair blynedd'
Bellach mae agweddau o Astudiaethau Celtaidd - sy'n cynnwys astudio Cymraeg ganol oesol a'r Mabinogi - yn cael eu dysgu fel rhan o gyrsiau eraill.
Dywedodd yr Athro Mark Williams, sy'n dysgu agweddau o Astudiaethau Celtaidd yng Ngholeg yr Iesu, ei fod yn "eithriadol o hyderus o ail-lenwi'r Gadair yn y ddwy neu dair blynedd nesaf".
"Dyma'r gadair Astudiaethau Celtaidd hynaf yn y byd. Mae hi wedi bod yn siom peidio gallu derbyn mwy o fyfyrwyr yn y blynyddoedd diwethaf," meddai.
"Mi fydde hi wedi bod yn golled enfawr."

Dywedodd Coleg yr Iesu bod y "ffocws nawr yn symud i ddod o hyd i gefnogaeth i ysgoloriaethau myfyriwr graddedig"
"Mae'n adnoddau fan hyn yn gyfoethog iawn," ychwanegodd. "Mae gynnon ni Lyfr Coch Hergest, dolen allanol a dwy lyfrgell sy'n llawn - gallen ni gefnogi 10 o fyfyrwyr ôl-raddedig os gawn ni'r Gadair yn ôl.
"Rydyn ni mor ddiolchgar am y gefnogaeth rydyn ni wedi ei gael gan bobl o Gymru ac o bob man ac mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r Gadair."
'Rhoi gwreiddiau i Gymru'
Y Cymro John Rhŷs oedd Athro Celteg cyntaf Prifysgol Rhydychen yn 1877.
Ymhlith y Cymry Cymraeg sydd wedi astudio yno o dan gyfarwyddyd yr Athro Celteg y mae T H Parry Williams, Bedwyr Lewis Jones, R Geraint Gruffydd, Derec Llwyd Morgan, Kathryn Jenkins, Huw Meirion Edwards ac Angharad Price.
'Fi oedd am fod y myfyriwr Astudiaethau Celtaidd olaf'
Dywedodd Llewelyn Hopwood, myfyriwr yn y brifysgol sydd wedi astudio elfennau o'r cwrs, y byddai "Cymru wedi aros ar gyrion meddyliau'r academyddion" pe byddai'r cwrs wedi dod i ben.
"Astudiaethau Celtaidd yw un o'r pethau sydd yn rhoi gwreiddiau i Gymru ym Mhrifysgol Rhydychen," meddai.
"Yr hyn dwi'n meddwl sy'n bwysig yw bod Cymru a llenyddiaeth Gymraeg yn derbyn tipyn o'r ffocws yma ac yn cael ei astudio law yn llaw gyda llenyddiaeth ehangach y byd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2018