Gwrthod deiseb dirwyn i ben Clwb Rygbi Castell-nedd

  • Cyhoeddwyd
Y Gnoll
Disgrifiad o’r llun,

Aeth cwmni adeiladu perchennog y clwb, Mike Cuddy, i'r wal ym mis Gorffennaf eleni

Mae llys yng Nghaerdydd wedi gwrthod deiseb i ddirwyn Clwb Rygbi Castell-nedd i ben.

Cafodd y gwrandawiad ei drefnu wedi i gwmni adeiladu perchennog y clwb, Mike Cuddy, fynd i'r wal.

Dywedodd y Barnwr Keyser bod Rygbi Castell-nedd Cyf wedi bod yn gofyn am dros £31,000 i gwmni gwahanol o eiddo Mr Cuddy a'u bod yn "gwbl aneglur".

Ychwanegodd ei fod yn gweld bod y clwb yn fethdalwr, ond nad oedd yn gallu caniatáu'r ddeiseb.

Nid oedd Mr Cuddy'n bresennol yn y gwrandawiad.

Mae Clwb Rygbi Castell-nedd, a fu unwaith ar frig y gêm amatur yn yr 1980au, ar waelod tabl Uwch Gynghrair y Principality.

Aeth cwmni Cuddy Group i'r wal ym mis Gorffennaf eleni.

Roedd rhai o gefnogwyr Castell-nedd wedi teithio i'r gwrandawiad ac yn siomedig gyda'r penderfyniad.

Dywedodd Gerald Morris, sy'n rhedeg lletygarwch y clwb, bod grŵp o gefnogwyr wedi bod yn gweithio ar gynllun i'w achub.

Yn ôl Mr Morris, roedd ganddynt gonsortiwm o fuddsoddwyr a oedd yn barod i gamu mewn petai'r clwb wedi ei gau.

Ffynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Castell-nedd wedi chwarae ar gae Y Gnoll ers y 1880au

Yn ystod y gwrandawiad, daeth i'r amlwg bod y clwb mewn dyled o £10,000 i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, a bod hi'n bosib bod arnynt arian i Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Roedd Mr Cuddy wedi rhoi'r bai ar ddirywiad ei gwmni ar ei iechyd a'r bwlch cafodd ei adael wedi i neb gamu i'r adwy.

Bryd hynny, dywedodd na fyddai hynny'n peryglu'r clwb rygbi.

Mewn datganiad yr wythnos diwethaf, dywedodd Mr Cuddy ei fod yn parhau i garu'r clwb, a'i fod a'i fryd ar "ailadeiladu rygbi Castell-nedd", ond ei fod yn rhagweld byddai rhaid i'r clwb ddisgyn i adran is.

Ychwanegodd ei fod wedi buddsoddi dros £1m yn y clwb yn ystod ei 25 mlynedd yn rhan ohono.

Bydd Mr Cuddy yn derbyn costau, a bydd y swm hwnnw yn cael ei benderfynu rhywbryd eto.

Nid dyma'r tro cyntaf i Grysau Duon Cymru wynebu problemau ariannol.

Yn 2012, bu'n rhaid i'r clwb frwydro yn erbyn deiseb dirwyn i ben gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi am fil treth nad oedd wedi ei dalu, ac yn 2014 wynebodd ddeiseb debyg yn sgil cyfraddau busnes heb eu talu i Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Dwy flynedd yn ôl, gofynnodd cefnogwyr i Undeb Rygbi Cymru gamu i'r adwy a pherchnogi'r clwb.