Annog Cyngor Sir Ynys Môn i gau canolfannau hamdden

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Cyngor Môn

Dylai Cyngor Sir Ynys Môn ystyried cau neu werthu eu canolfannau hamdden fel rhan o'r ymgyrch i achub gwasanaethau hanfodol fel ysgolion.

Daw'r sylwadau gan drigolion Biwmares, lle mae'r gymuned leol bellach yn rheoli'r ganolfan hamdden ar ôl ymgyrch i'w hachub yn 2013.

Mae trigolion Ynys Môn wedi cael eu rhybuddio am gynnydd posib o 10% mewn treth cyngor oherwydd y ddiffyg ariannol o £7m.

Mae'r Cyngor wedi dweud eu bod nhw'n gobeithio buddsoddi mwy o arian yn eu canolfannau hamdden, er gwaetha'r posibilrwydd o gau hyd at 30 o ysgolion y sir.

Er fod toriadau o 60% wedi bod yng nghyllideb hamdden y sir dros y tair blynedd diwethaf, mae arian wedi cael ei wario ar gynnal y pedwar canolfan hamdden sydd dan ofal y cyngor; Amlwch, Llangefni, Porthaethwy a Chaergybi.

Pan roedd canolfan hamdden Biwmares dan fygythiad yn 2012, daeth grŵp o drigolion lleol ynghyd i'w berchnogi, a bellach mae'r ganolfan yn hunangynhaliol.

O ganlyniad i lwyddiant y ganolfan mae trafodaethau wedi eu cynnal i drafod buddsoddiad posib o hyd at £1m er mwyn gwella'r cyfleusterau.

'Anghyfforddus'

Yn ystod cyfarfod Cyngor Tref Biwmares, dywedodd aelod o'r corff, Stan Zaloty, y dylai'r cyngor sir ystyried cau'r canolfannau dan eu gofal nhw neu ddod o hyd i rywun arall fyddai'n gallu eu rheoli.

"Oes wir angen pob un?" meddai, "pan mae pethau fel hyn yn cael eu cadw er anfantais i ysgolion, dwi'n teimlo fod hynny yn anghywir."

Wrth ymateb, dywedodd aelod arall o'r cyngor tref, Clay Theakston, ei bod hi'n "anghyfforddus" gyda'r syniad o danseilio gwasanaethau mewn ardaloedd eraill yn bwrpasol.

Dywedodd rheolwr hamdden a masnach Cyngor Sir Ynys Môn, Gerallt Roberts: "Hoffwn weld mwy o fuddsoddiad yng nghanolfannau hamdden a chyfleusterau chwaraeon yr ynys dros y blynyddoedd nesaf er mwyn galluogi ein cymunedau i fod yn iachach ac yn fwy heini."