Cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol ysgolion gogledd Môn

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gymuned Llanfechell
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Ysgol Gymuned Llanfechell nos Fercher

Daeth tua 40 o rieni a thrigolion pentref Llanfechell ar Ynys Môn i ysgol gynradd y pentref nos Fercher i drafod dyfodol addysg yn yr ardal gyda'r cyngor sir.

Mae adran addysg y cyngor wedi dechrau cyfnod o ymgysylltu â thrigolion pentrefi ger Amlwch er mwyn trafod sut i ymateb i'r llefydd gwag sydd yn yr ysgolion hynny.

Pryder nifer o rieni'r ardal yw y bydd rhaid cau rhai o'r ysgolion.

Dywedodd arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi, nad ydy'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy, a bod "rhaid newid".

Ar hyn o bryd mae 16% o'r llefydd yn ysgolion gogledd-ddwyrain Môn yn wag.

Yn Ysgol Uwchradd Syr Thomas Jones yn Amlwch mae lle i 970 o ddisgyblion, ond dim ond 479 o blant sydd yno.

Mae nifer o lefydd gwag yn yr ysgolion cynradd lleol hefyd, ac mae'r cyngor bellach yn croesawu sylwadau gan rieni a thrigolion yr ardal ar sut i ymateb i'r sefyllfa.

'Dechrau gwael'

Dywedodd un rhiant, Seiriol Edwards: "Dydw i ddim yn rhy hapus efo dilysrwydd y ffeithiau maen nhw'n honni sydd yn y ddogfen.

"Mae hyn yn ddechrau gwael ond os gawn ni'r ffeithiau'n iawn a derbyn barn rhieni a phobl yr ardal, dwi'n meddwl bod gennym ni well obaith i ddiogelu a sicrhau'r addysg gorau i blant yr ardal yma."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Seiriol Edwards bod angen cael y "ffeithiau'n iawn" cyn gwneud penderfyniad

Ychwanegodd Ms Medi: "Be' oedd yn dda heno wrth siarad efo rhieni â darpar rieni oedd eu bod nhw'n teimlo fod y fformat yma o ymgysylltu wedi golygu fod pawb wedi cael gofyn cwestiwn a bod pawb yn cael dylanwad ar be' fydd yr opsiynau fydd yn dod yn yr ymgynghoriad statudol."

Bydd y cyfarfodydd yn parhau'r wythnos nesa, a'r gobaith ydy llunio cynllun ffurfiol ar gyfer ymgynghori statudol erbyn mis Chwefror neu fis Mawrth, a gwneud penderfyniad terfynol erbyn haf 2019.