Pobl yn heidio i orsaf drenau am ei bod hi mor dawel
- Cyhoeddwyd
Am flynyddoedd, gorsaf Copa Dinas y Bwlch, ger Llanymddyfri, oedd y tawelaf yng Nghymru.
Gyda 228 o deithwyr y flwyddyn, roedd hi hefyd yn un o'r tawelaf yn y DU.
Ond eleni, yr orsaf fechan ar Lein Calon Cymru welodd y cynnydd mwyaf o ran teithwyr trwy Brydain - 710%.
A'r ffaith ei bod hi mor unig a diarffordd sy'n gyfrifol mae'n debyg.
Gorsaf Dolgarrog sydd bellach yn hawlio teitl Gorsaf Dawelaf Cymru a'r DU.
Defnyddiodd 612 o deithwyr yr orsaf yn Nyffryn Conwy y llynedd - 40% yn llai na'r flwyddyn cynt.
Denu pobl o America
Ond mae'n stori gwbl wahanol yng ngorsaf Copa Dinas y Bwlch (Sugar Loaf) erbyn hyn.
Nid oes maes parcio na hyd yn oed beiriant tocynnau yn yr orsaf, ond am ei bod hi mor dawel a diarffordd mae pobl yn tyrru yno.
Saethodd y nifer sy'n ei defnyddio o 228 y llynedd i 1,824 eleni - mwy na'r cyfanswm am yr 17 mlynedd flaenorol, a'r cynnydd mwyaf (710%) mewn unrhyw orsaf yn y DU.
Cerddwyr a phobl sy'n ymddiddori yn y rheilffyrdd yw'r mwyafrif o'i defnyddwyr, yn ôl llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru.
"Mae pobl wedi dod yma o bedwar ban byd dim ond er mwyn cael dweud eu bod nhw wedi bod yma," meddai.
"Mae rhai o'r Unol Daleithiau wedi bod yma ar ôl iddyn nhw weld cyfeiriad at gyn lleied o deithwyr oedd yn defnyddio'r orsaf."
Gorsaf Waterloo yn Llundain yw'r brysuraf yn y DU gyda 95m o deithwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2018
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2018