Llyfrgell Genedlaethol yn penodi Pedr ap Llwyd yn bennaeth

  • Cyhoeddwyd
Pedr ap LlwydFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol

Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi mai Pedr ap Llwyd fydd prif weithredwr a llyfrgellydd newydd y sefydliad pan fydd Linda Tomos yn ymddeol ym mis Ebrill 2019.

Ef yw'r dirprwy brif weithredwr a chyfarwyddwr casgliadau a rhaglenni cyhoeddus ar hyn o bryd.

Yn wreiddiol o Benrhyndeudraeth, Gwynedd, fe raddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor lle cwblhaodd radd uwch mewn archifaeth.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr i barhau'r gwaith clodwiw sydd wedi'i gyflawni dan arweinyddiaeth Linda Tomos a gweithredu cynlluniau newydd, cyffrous sy'n mynd i amlygu cyfoeth ein casgliadau a'n gwasanaethau," meddai.

"Llyfrgell i bawb yw hon a bydd ceisio cyrraedd cynulleidfaoedd newydd fydd yn elwa o'n gwasanaethau yn flaenoriaeth gennyf."

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Mae'n bleser croesawu Pedr ap Llwyd i'r swydd allweddol yma i adeiladu ar y gwaith gwych sy'n cael ei gyflawni gan Linda Tomos, ac i arwain y llyfrgell i gyfnod cyffrous a heriol."