Rhybudd fod yr asgell dde yn targedu Cymry ifanc bregus

  • Cyhoeddwyd
Tony HendricksonFfynhonnell y llun, Diverse Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Tony Hendrickson, cydlynydd prosiect Resilience, bod gan ysgolion Cymru rol bwysig i'w chwarae wrth ymladd eithafiaeth asgell dde

Mae eithafwyr asgell dde yn targedu Cymry ifanc, bregus yn ôl arweinydd grŵp sy'n ymgyrchu yn erbyn radicaleiddio.

Dywed Tony Hendrickson, o'r prosiect Resilience, dolen allanol, mai'r ifanc, y tlawd a'r mwyaf bregus sydd fwyaf dan fygythiad o gael eu hudo gan yr eithafwyr.

Roedd angen i athrawon fod yn fwy gwyliadwrus er mwyn adnabod hiliaeth ac ymateb iddo, meddai.

Cyflwyno neges amgen i un yr asgell dde yw nod y grŵp, meddai.

Mr Hendrickson, 54, a fagwyd yn Llanrhymni, Caerdydd yw cydlynydd newydd Resilience - grŵp sy'n cael ei redeg gan yr elusen EYST.

Daw ei rybudd yn sgîl cyhoeddi cynnydd o 36% yn nifer y bobl sy'n cael eu cyfeirio at gorff atal terfysgaeth y DU, Prevent, o achos eithafiaeth asgell dde.

Roedd diffyg amrywiaeth hil ym mhoblogaeth rhannau helaeth o Gymru yn ei gwneud hi'n haws i'r neges asgell dde eithafol gydio, medd Mr Hendrickson, "am ei bod hi'n haws gelyniaethu pobl os nad ydach chi'n eu hadnabod".

Ychwanegodd bod eithafiaeth asgell dde yn fater llawer mwy amlwg yng Nghymru nag eithafiaeth Islamaidd, a'i fod wedi tyfu yn sgîl Brexit ac ethol Donal Trump yn arlywydd yr Unol Daleithiau.

"Nid yw'r broblem [eithafiaeth] Islamaidd erioed wedi bod yn un ddrwg yng Nghymru," meddai.

"Pe byddai Mwslemiaid wedi llyncu hynny, fe fyddai bomiau'n ffrwydro yma bob dydd."

Ffynhonnell y llun, EYST
Disgrifiad o’r llun,

Mae prosiect Resilience yn gweithio mewn ysgolion, colegau a chanolfannau ieuenctid i frywdro yn erbyn neges yr eithafwyr asgell dde

Sefydlwyd Resilience mewn ymateb i Prevent, a gafodd ei gyhuddo gan rai o fod yn wrth-Islamaidd, ac mae'n gweithio gyda phobl ifanc sydd dan fygythiad o ecsbloetio gwleidyddol, crefyddol neu rywiol.

Cynnig ymateb oedd nod Resilience, medd Mr Hendrickson, sef cyflwyno neges amgen i un yr asgell dde.

Tra'n gweithio mewn ysgolion, colegau a charchardai, eglurodd mai ceisio achub y blaen yr oeddan nhw fel rheol, er mwyn gwella gallu pobl ifanc fregus i ymwrthod â radicaleiddio.

Roedd angen i staff ysgolion fod yn fwy ymwybodol o agweddau hiliol ymhlith disgyblion.

Bwlio hiliol

"Mae nifer o ysgolion yn dal i gael trafferth gydag achosion o hiliaeth - un ai dydyn nhw ddim yn ei adnabod neu maen nhw'n teimlo'n anghyfforddus i ymateb iddo," meddai.

"Dwi ddim yn gweld bai ar rieni, ond fe ddylai rhywbeth fod yn digwydd yn yr ysgolion. Rydym yn byw mewn cymdeithas amrywiaethol, ac mae angen i ni gynnal y trafodaethau yma."

I danlinellu'r broblem, defnyddiodd Mr Hendrickson esiampl bachgen o Syria a oedd wastad mewn trwbwl yn ei ysgol.

"Aeth un o'n gweithwyr i'w ysgol i siarad efo'r bachgen a chanfod ei fod yn dioddef bwlio hiliol," meddai.

"Pan dynnodd sylw athrawon at y peth doeddan nhw heb adnabod hynny o gwbl."

Ffynhonnell y llun, EYST
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r prosiect yn ceisio gwella gallu pobl ifanc fregus i ymwrthod â radicaleiddio ac ecsploetio

Galwodd am addysg amrywiaethol, ar yr un llinellau ag addysg ryw.

Honnodd hefyd bod eithafiaeth asgell dde yn rhywbeth oedd yn mynd a dod mewn cylchoedd ac y byddai'n "gwaethygu cyn gwella".

"Mae'r asgell dde wedi cael hwb gan dwf UKIP, ac i ryw raddau mae'r prif bleidiau wedi prynu i mewn i'r naratif yna," ychwanegodd.

"Fedr yr adain dde eithafol fyth fod yn ddim byd ond treisgar am bod y naratif yn seiliedig ar fod yn gas ac ymosodol, ac nid ar ddeialog a thrafod rownd y bwrdd. Iddyn nhw mae hi'n fater o 'ni' yn erbyn 'nhw' mewn rhyfel hiliol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe wnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddi canllawiau ar gyfer cyrff penodol gan gynnwys darparwyr addysg.

"Byddwn yn disgwyl i awdurdodau lleol ac ysgolion gymryd camau rhesymol i sicrhau cydymffurfiaeth gyda'u chyfrifoldebau yn unol â'r Ddeddf Gwrth Derfysgaeth.

"Nod ein cwricwlwm fydd datblygu ein plant yn ddinasyddion o Gymru a'r byd sy'n wybodus ac yn foesol, gan barchu hawliau ac anghenion eraill yn y gymdeithas.

"Mae diogelwch a lles plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth ac rydym yn disgwyl i ysgolion ymateb yn gadarn ac yn ymwrthod a phob math ac agwedd o fwlian."