Mike Cuddy yn fodlon gwerthu Clwb Rygbi Castell-nedd
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog Clwb Rygbi Castell-nedd wedi dweud ei fod yn fodlon gwerthu'r clwb yn dilyn misoedd o ansicrwydd am ei ddyfodol.
Fe wnaeth y clwb osgoi ymgais i'w ddirwyn i ben yn gynharach yn y mis, ond mae wedi gorfod gohirio dwy gêm yn Uwch Gynghrair Principality yn ddiweddar.
Mae pwysau ar y perchennog, Mike Cuddy, i adael ar ôl i 68 o gyn-chwaraewyr yn cynnwys Duncan Jones, Rowland Phillips a Paul Thorburn alw am newid mewn perchnogaeth.
Roedd Mr Cuddy wedi dweud ei fod yn dymuno aros, ond mae bellach wedi dweud ei fod yn fodlon gadael y clwb oherwydd ei iechyd.
Parhau yn 'peryglu bywyd'
Mae Mr Cuddy wedi cael diagnosis o Niwrosarcoidosis, sydd wedi effeithio ei allu i symud a'i leferydd.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd: "Dydw i ddim eisiau parhau i ymwneud yn uniongyrchol gyda Chlwb Rygbi Castell-nedd.
"Dwi eisiau ei basio ymlaen i bobl sy'n iachach ac yn gallu rhedeg y clwb fel mae'n haeddu cael ei redeg."
Yn y 1980au roedd y clwb yn enw mawr mewn rygbi amatur yng Nghymru, ond maen nhw ar waelod yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd.
"Dwi wedi bod yn rhan o glwb Castell-nedd ers bron i 30 mlynedd a dwi'n ymwybodol lle mae'r clwb ar hyn o bryd a'r ffaith nad ydy o'n iach bellach dan fy arweiniad.
"Mae pwysau teuluol wedi bod ac mae meddyg wedi dweud na alla i barhau fel dwi wedi gwneud.
"Os nad ydw i'n gwrando ar gyngor meddyg yna dwi'n ffwl.
"Yn fy nghalon hoffwn i aros a brwydro. Dwy flynedd yn ôl fe fyddwn i wedi.
"Ond fel ydw i nawr, fy iechyd yn wael, bydde'n peryglu fy mywyd i barhau i frwydro hyn oherwydd mae fy ngwellhad i wedi arafu dan straen y sefyllfa."
Mae chwaraewyr a staff wedi gadael y clwb oherwydd y sefyllfa ariannol, sy'n deillio o fethiant cwmni adeiladu Mr Cuddy ym mis Gorffennaf.
Mae'n dweud bod yr anawsterau wedi dod yn sgil ei salwch.
"Y ddwy flynedd diwethaf oedd rhai anoddaf fy mywyd," meddai.
"Nid yw'n braf i unrhyw un. Mae wedi bod yn anodd i mi ac i fy nheulu."
Ychwanegodd bod "ymosodiadau personol iawn" wedi bod ar y we, a bygythiadau yn ei erbyn.
"Mae wedi bod yn ofnadwy i fy nheulu a ffrindiau sy'n gwybod faint rydw i wedi ei wneud i'r clwb rygbi dros y blynyddoedd.
"Ond mae rhai cyn-chwaraewyr wedi bod yn gefnogol iawn ac rydyn ni wedi bod yn cael negeseuon o gefnogaeth o dros y byd rygbi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2018