'Sownd yn yr unfan' fisoedd wedi tirlithriad Ystalyfera
- Cyhoeddwyd
Mae mam o Gwm Tawe wedi disgrifio'i rhwystredigaeth o fod yn "sownd yn yr unfan" dros chwe mis ar ôl gorfod gadael ei chartref oherwydd pryderon diogelwch.
Fe gafodd 10 o deuluoedd orchymyn gan Gyngor Sir Castell-nedd Port Talbot fis Awst y llynedd i adael eu cartrefi yn Heol Cyfyng ym Mhant-teg ger Ystalyfera wedi tirlithriad, ac yn ôl Amanda Hopkins mae'r profiad wedi effeithio arni a'i phlant yn emosiynol ac yn ariannol.
Ddydd Iau, fe fydd tribiwnlys yng Nghaerdydd yn clywed tystiolaeth gan dri o'r teuluoedd, gan gynnwys teulu Ms Hopkins, sy'n apelio yn erbyn y gorchymyn.
Dywedodd y cyngor fod "swyddog tai wedi ceisio cysylltu gyda Amanda ers mis Rhagfyr i drafod y cefnogaeth mae wedi bod yn ei roi iddi."
Cysgu ar y soffa
Fe dreuliodd Ms Hopkins y mis cyntaf yn rhannu ystafell gyda'i dau blentyn ieuengaf mewn gwesty gwely a brecwast lleol, tra bo'i merch hynaf yn aros gyda ffrindiau.
Ers hynny, mae'r teulu'n byw gyda'i gilydd mewn tŷ ar rent, gyda'r cyngor yn talu'r gost, ond mae Ms Hopkins yn gorfod cysgu ar soffa yn amlach na pheidio gan nad oes digon o welyau yn y tŷ.
Dywedodd ei bod ond yn cysgu mewn gwely pan mae un o'i phlant yn aros gyda ffrindiau neu berthnasau.
"Mae'n ofnadwy," dywedodd. "Mae'n amhosib i'w ddisgrifio oni bai eich bod yn y sefyllfa."
"Mae fel diwrnod 'ground-hog' - fedrwch chi ddim gwneud unrhyw gynlluniau tymor hir ... yr un peth ddydd ar ôl dydd."
Wrth i'r teuluoedd baratoi i roi tystiolaeth i'r tribiwnlys, mae'r cyngor sir yn parhau i boeni am sefydlogrwydd ardal Heol Cyfyng.
Mae pobl wedi gwrthod symud o ddau o'r tai, er gwaethaf rhybuddion bod yna berygl.
Fe fydd y tri theulu sy'n herio'r gorchymyn yn cael eu cynrychioli yn y gwrandawiad gan beiriannydd adeiladu, ac maen nhw wedi trefnu arolygon annibynnol.
Mae Ms Hopkins yn dal i wneud taliadau morgais mewn perthynas â'i chartref er nad yw'n cael byw yna, ac mae hi wedi ymweld â'r adeilad nifer o weithiau ers gorfod gadael.
"Rydych yn gweld dirywiad bob tro. Mae'r carpedi'n llwydo, mae yna fywyd gwyllt yn y seler oherwydd mae pethau wedi cael eu cnoi, mae dŵr y tu mewn i'r ffenestri.
"Mae'n ddychrynllyd oherwydd rydych chi wedi buddsoddi popeth ynddo ac mae'n mynd â'i ben iddo."
Dywed Ms Hopkins nad yw'n credu bod y tŷ wedi symud yn rhagor er gwaethaf tywydd garw a daeargryn diweddar yn yr ardal, ond mae'n poeni y bydd yn amhosib i'w werthu yn y dyfodol.
"Dydw i ddim eisiau byw mewn tŷ anniogel ac roeddwn ond wedi bwriadu aros yno am gwpwl o flynyddoedd.
"Roeddwn i wedi bwriadu ei werthu eleni a symud i dŷ llai. Yn amlwg, dydy hynny ddim yn mynd i ddigwydd nawr. Rwy'n sownd mewn sefyllfa Catch-22.
"Os ydyn nhw'n dweud wrtha'i ga'i fynd yn ôl i'r tŷ ond yna mae'n amhosib i'w werthu - yna, dwi'n styc.
"Dydw i ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd os maen nhw'n dweud wrtha'i ga'i ddim mynd yn ôl yna, na lle ddyliwn i fynd i gael help."
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot: "Mae swyddog tai wedi ceisio cysylltu gyda Amanda ers mis Rhagfyr I drafod y gefnogaeth mae wedi bod yn ei roi iddi. Fe gafodd e-bost ei anfon ar 8 Rhagfyr,2017 ond tydi hi heb gysylltu gyda'r swyddog ers yr ateb gwreiddiol.
"O ran cefnogaeth ariannol, fe gafodd costau gwely a brecwast eu talu o'r diwrnod wnaeth Amanda adael ei chartref...i'r diwrnod y gwnaeth hi symud fewn i lety dros dro.
"Mae'r cyngor hefyd wedi trefnu a thalu iddi storio eitemau na allai ei symud i'r llety dros dro. O ran rhent, mae'r gost wedi cael ei dalu gan y cyngor hyd yma.
"Mae llety dros dro Amanda yn eiddo gyda thair llofft, sydd ddigon mawr i bedwar o bobl. Fe gafodd Amanda ei chynghori y byddai'n addas i'w mab gael un ystafell wely, ei dwy ferch i rannu un ystafell wely a hithau i gael y llall.
"Fe ddywedodd wrth staff ar y pryd ei bod hi eisiau i'w phlant gael ystafell yr un a byddai'n dewis i gysgu yn y lolfa.
"Fe wnaethom ei chynghori ar y pryd y byddwn yn parhau i edrych am lety mwy. . ."
"Dyma oedd yr achos tan fis Hydref pan ddywedodd hi nad oedd hi eisiau parhau i edrych am lety arall a'i bod yn hapus i aros a gweld beth oedd yn dod o'r sefyllfa yn Ffordd Cyfyng.