Gwrthod apêl i deuluoedd wedi tirlithriad Ystalyfera

  • Cyhoeddwyd
Tirlithriad Ystalyfera
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid symud pobl o 10 o dai ar Heol Cyfyng yn ardal Pant-teg y llynedd

Mae trigolion yng Nghwm Tawe wedi eu gwrthod rhag cael yr hawl i herio penderfyniad i'w symud allan o'u tai yn dilyn tirlithriad.

Llynedd cafodd trigolion yn Ystalyfera eu symud o'u tai yn dilyn pryderon fod y tir yno wedi symud ac y gallai tirlithriad ddigwydd.

Ym mis Ionawr dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot na fyddai rhagor o bobl yn cael eu gorfodi i symud o'u cartrefi.

Ond mae rhai o drigolion y 10 tŷ gafodd eu gwagio yn sgil y pryderon gwreiddiol wedi bod yn herio'r penderfyniad.

'Dim sail i'r apêl'

Fe wnaeth un ohonynt ddisgrifio'i rhwystredigaeth o fod yn "sownd yn yr unfan" dros chwe mis ar ôl gorfod gadael ei chartref oherwydd y pryderon diogelwch.

Ym mis Mai, fodd bynnag, fe wnaeth tribiwnlys ganfod o blaid y cyngor, gan ddweud eu bod wedi canfod tystiolaeth o "berygl i fywyd" petai trigolion yn aros yn eu tai.

Fe wnaeth dau o'r teuluoedd herio dyfarniad y tribiwnlys hwnnw, ond ddydd Iau dywedodd y cyngor fod eu hapêl wedi'i wrthod am nad oedd sail iddo.

Ychwanegodd y cyngor mewn datganiad fod swyddogion "wedi cyfarfod yn ddiweddar gyda pherchnogion tai ar Heol Cyfyng" a'u bod wrthi'n cynnal archwiliadau newydd ar y tai oedd yn y rhanbarth risg uchel.