'Angen gwneud mwy i atal sigaréts anghyfreithlon'
- Cyhoeddwyd
Mae troseddwyr sy'n gwerthu sigaréts anghyfreithlon yn ei chael hi'n hawdd targedu Cymru am nad oes digon yn cael ei wneud i'w hatal, yn ôl un o uwch swyddogion Safonau Masnach Cyngor Powys.
Dywedodd Clive Jones y bydd camau i reoli'r fasnach anghyfreithlon yn cael eu tanseilio os na fydd strategaeth ganolog i daclo troseddwyr yn cael ei chyflwyno.
Mae ffigyrau newydd yn dangos bod 150,000 eitem o gynnyrch tybaco anghyfreithlon wedi ei ddarganfod yng Nghymru ers 2013.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn ystyried cynlluniau i fynd i'r afael â'r broblem.
Miliwn sigarét y dydd
Fe ddangosodd arolwg o 2,500 o bobl gan Ash Cymru yn 2014 bod 15% o'r tybaco sy'n cael ei werthu yng Nghymru yn anghyfreithlon - tua miliwn sigarét y dydd.
Ar y pryd roedd graddfa uwch o gynhyrchion anghyfreithlon yng Nghymru nac mewn unrhyw ranbarth yn Lloegr.
Dywedodd Clive Jones o Adran Safonau Masnach Powys: "Y peryg mwyaf i Gymru yw bod troseddwyr yn elwa am nad oes yma ethos o orfodaeth.
"Dwi'n meddwl bod troseddwyr yn gweld Cymru fel gwlad sydd â drws agored ac yn fan da i wneud arian. Dyma yw'r her i Lywodraeth Cymru - lle mae eu pwyslais ar orfodaeth?
"Mae gan Gymru strategaeth wych o ran rheoli tybaco ond mae'n rhaid cael elfen o orfodaeth neu fe fydd y strategaeth gyfan yn cael ei thanseilio."
Mae arbenigwyr yn dweud y gall sigaréts ffug gynnwys tybaco gwael, plastig a charthion pobl neu lygod; gallant hefyd achosi tân oherwydd y ffordd y maent yn cael eu cynhyrchu.
Dywedodd Suzanne Cass, prif weithredwr Ash Cymru, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â masnachu anghyfreithlon drwy gyfathrebu'n ganolog a chael rhaglen orfodaeth.
"Ry'n ni'n gwybod bod tybaco anghyfreithlon yn broblem fawr yng Nghymru," meddai.
"Ry'n ni'n gwybod fod plant yn cael sigaréts rhad drwy'r farchnad anghyfreithlon. Ry'n hefyd yn gwybod fod pobl yn parhau i smocio oherwydd bod tybaco anghyfreithlon ar gael iddynt i'w brynu."
Llywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am iechyd cyhoeddus a safonau masnach ac er bod delio â throseddu yn cael ei gyllido gan y Swyddfa Gartref, mae'n ofynnol i'r cynllun gorfodaeth gael ei ariannu gan Fae Caerdydd.
Ynghyd ag adrannau safonau masnach mae cwmnïau tybaco mawr yn cynnal eu hymchwiliadau eu hunain i'r cynhyrchion anghyfreithlon sy'n cael eu gwerthu.
Yn eu plith mae cwmni Japan Tobacco International (JTI) sydd wedi cynnal ymgyrch gudd yng Nghymru.
Mae Steve Wilkins, cyn-uwch-swyddog i Heddlu Dyfed-Powys yn un o gyfarwyddwyr cwmni JTI ac mae'n dweud bod modd "gwneud llawer o arian" o dybaco anghyfreithlon.
"Mae'n ddewis da i droseddwyr gan fod yr elw yn uchel - mae'r siawns o gael eich dal yn isel a dyw'r gosb ddim yn llym," meddai.
Mae John Parkinson yn berchen ar siop bapur newydd ym Mae Penrhyn, Conwy ac yn ei ôl ef mae'r "cynnydd dramatig" sydd wedi bod mewn gwerthiant anghyfreithlon wedi cael effaith ar fusnesau lleol.
"'Da chi'n dod i wybod bod y rhan fwyaf o bobl ifanc wedi prynu cynnyrch anghyfreithlon," meddai.
"Dyw gwerthwyr ddim yn poeni os ydych chi dros 18 - maent ond yn poeni am yr elw."
'Tanseilio ein hymdrechion'
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried argymhellion Ash Cymru.
"Mae tybaco anghyfreithlon yn tanseilio ein hymdrechion i amddiffyn pobl ifanc rhag prynu tybaco gan eu bod yn cael ei gynnig am bris llawer yn rhatach a does dim cyfyngiadau oedran," meddai.
"O gael tybaco anghyfreithlon dyw arbed arian ddim yn gymhelliad i'r sawl sy'n ceisio rhoi'r gorau i smocio.
"Os ydym am ostwng nifer y bobl sy'n ysmygu yng Nghymru mae'n rhaid i ni geisio atal pobl ifanc rhag dechrau ar yr arfer a rhaid i ni hefyd gefnogi 'smygwyr i roi'r gorau iddi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2016