Eglwys Llanrwst yn derbyn £700,000 o arian loteri

  • Cyhoeddwyd
Eglwys Sant GrwstFfynhonnell y llun, Eglwys Sant Grwst

Mae Eglwys yn sir Conwy wedi derbyn dros £700,000 gan y Loteri Genedlaethol i uwchraddio'r adeilad.

Mae Eglwys Sant Grwst, Llanrwst, yn adeilad rhestredig Gradd I ac mae gwaith atgyweirio "hanfodol" angen ei wneud er mwyn agor yr eglwys i gynulleidfaoedd newydd.

Y bwriad yw defnyddio'r arian i sicrhau y gall yr eglwys barhau fel man addoli tra hefyd yn gwasanaethu fel atyniad treftadaeth a thwristiaeth hefyd.

Yn ôl Olwen John, un o dîm y prosiect, mae'r cynllun yn un "cyffrous iawn ac yn hwb mawr i'r gymuned leol".

Mae arddangosfeydd newydd sy'n ailadrodd hanes yr eglwys a'r dref yn rhan o'r cynlluniau, tra bod gweithgareddau fel perfformiadau cerddorol, gweithdai a dangosiadau sinema hefyd ar y gweill.

I gefnogi'r gwaith, bydd gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi mewn sgiliau cadwraeth i helpu i ofalu am yr adeilad hanesyddol.

Ffynhonnell y llun, Eglwys Sant Grwst

Ychwanegodd Ms John: "Bydd y prosiect tair blynedd hwn yn rhoi egni newydd i Sant Grwst drwy raglen uchelgeisiol o gadwraeth ac ailddatblygu.

"Mae'r eglwys wedi bod yn ganolfan bwysig o ran y ffydd Gristnogol ac addoli ac rydym wrth ein bodd y bydd hyn yn parhau ochr yn ochr â gweithgareddau cymunedol a thwristiaeth newydd."

'Apelio at y gymuned gyfan'

Wedi'i hadeiladu'n wreiddiol yn 1170, mae'n debyg mai dyma'r unig Eglwys hysbys sy'n gysegredig i Sant Grwst.

Ar ôl cael ei dinistrio yn rhannol yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr yn y 1400au, fe'i dymchwelwyd yn llwyr yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau yn 1468. Adeiladwyd yr adeilad presennol sy'n sefyll heddiw yn 1470.

Dywedodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru: "Mae Llanrwst ac Eglwys Sant Grwst yn llawn hanes a threftadaeth Cymru, ac mae'r eglwys leol yn adeilad pwysig i'w gadw - ond mae angen i ni wneud yn siŵr ei bod yn gallu cynnal ei hun yn y dyfodol drwy apelio at y gymuned gyfan.

"Mae'r prosiect hwn, a wnaed yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, wedi sicrhau dyfodol adeilad sy'n bwysig yn genedlaethol a bydd yn helpu i sicrhau fod yr eglwys yn chwarae rôl ganolog yn y gymuned leol a thu hwnt am nifer o flynyddoedd i ddod."

Ychwanegodd: "Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Llanrwst yn 2019, bydd y dref hanesyddol yn llawn ymwelwyr a bydd gwaith ail-ddatblygu'r Eglwys ar y gweill i bawb gael gweld."