Ci a'i berchennog yn ôl gyda'i gilydd wedi dwy flynedd

  • Cyhoeddwyd
Trisha Joseph and Springer spaniel BelleFfynhonnell y llun, Trisha Joseph
Disgrifiad o’r llun,

Y ci a'i berchennog nôl gyda'i gilydd

Mae perchennog ci sbaniel wedi dweud ei bod hi'n anghredadwy bod hi a'i chi nôl gyda'i gilydd ar gyfer y Nadolig - a hynny ddwy flynedd wedi i'r ci gael ei ddwyn ym Mhowys.

Dywedodd Trisha Joseph na wnaeth hi erioed "roi'r gorau i obeithio" yn ystod y chwilio am Belle, sy'n chwech oed.

Roedd hi a 500 o bobl ar grŵp Facebook wedi lledaenu neges am ddiflaniad y ci.

Ddydd Gwener, daeth hi i'r amlwg bod Belle ar werth 75 milltir o adref.

"Roedd fy ffôn yn canu'n ddi-stop a nifer o negeseuon ar-lein yn cael eu hanfon ataf," meddai Trisha sy'n byw yn Nefynnog.

Roedd Belle yn cael ei gwerthu gan berson 18 oed o Gaerwrangon - roedd ef wedi bod yn gofalu am y ci ers chwe mis ac fe gafodd sioc o wybod bod y ci wedi cael ei ddwyn.

Fe fynnodd bod y ci yn cael ei ddychwelyd i'w berchnogion gwreiddiol.

"Roedd e'n arwr," meddai Trisha,"mi allai fod wedi diflannu gyda Belle unwaith ei fod yn gwybod ei bod wedi cael ei dwyn.

"Ond fe ddywedodd wrthom mai ni oedd piau hi - dewch i'w nôl hi."

Ffynhonnell y llun, Trisha Joseph
Disgrifiad o’r llun,

Mae Belle adref wedi iddi fod ar goll am ddwy flynedd

"Wedi gyrru i nôl y ci roeddwn yn gwybod mai hi oedd hi," meddai'r perchennog.

Ychwanegodd: "Fe wnaeth hi fy adnabod yn syth ac roedd hi'n gwybod yn union lle'r oedd hi.

"Dwi dal ddim yn credu'r peth."

Ffynhonnell y llun, Trisha Joseph
Disgrifiad o’r llun,

Belle gyda'i pherchennog yn Nefynnog

Mae perchnogion yn credu bod y sawl a wnaeth ddwyn Belle wedi'i thargedu gan ei bod yn gi gwaith llwyddiannus ac yn werth cannoedd o bunnau.

Fe aeth y lladron i mewn i'r sgubor a dwyn Belle a chi arall tra bod y perchnogion oddi cartref - cafwyd hyd i'r daeargi 90 milltir i ffwrdd rai dyddiau wedyn.

"Roedd e'n ofnadwy," meddai Tricia, "ond ry'ch chi'n parhau i obeithio a nawr bod hi nôl dyma'r anrheg Nadolig gorau erioed.

"Mae'n bywyd eto'n gyflawn."