£4.5m o ddirwyon am sbwriel a baw ci ers 2014-15

  • Cyhoeddwyd
ciFfynhonnell y llun, Alamy

Mae dirwyon am daflu sbwriel a baw ci wedi cynyddu'n aruthrol yn y ddegawd ddiwethaf gyda £1.3m yn cael ei dalu'r llynedd yn unig.

Cafodd mwy na 27,000 o ddirwyon, dolen allanol eu rhoi yn 2017-18 gan gynghorau Cymru, i fyny 2,800 o 2007.

Dywedodd elusen Cadwch Gymru'n Daclus bod angen addysgu pobl i newid eu hymddygiad yn ogystal â gorfodaeth.

Ers 2014-15, mae 22 o awdurdodau lleol Cymru wedi rhoi 90,500 o ddirwyon am daflu sbwriel a baw ci - ar gost o £4.5m.

Dywedodd Jemma Bere, o Cadwch Gymru'n Daclus fod "gan orfodi teg rôl bwysig i'w chwarae" ond mae'n rhaid iddo "fod yn rhan o strategaeth ehangach ar gyfer atal a newid ymddygiad, sy'n cynnwys addysg, ymgysylltu a deddfwriaeth".

"Er mwyn lleihau sbwriel yn effeithiol yng Nghymru, mae angen inni weithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol, asiantaethau, busnesau ac ysgolion, gan ddatblygu agwedd fwy cyd-gysylltiedig," meddai.

Cynghorau Sir Ddinbych, Conwy a Wrecsam oedd yn gyfrifol am gyhoeddi tua 45% o'r dirwyon baw ci a sbwriel ers 2014-15 yng Nghymru, gyda £2.1m yn cael ei dalu.

Sir Fynwy, Sir Benfro a Cheredigion roddodd y nifer lleiaf o ddirwyon gyda 32 rhyngddyn nhw yn yr un cyfnod, gan dderbyn £1,675.

Mae awdurdodau yn gosod eu cosbau ariannol eu hunain gyda'r lefel tua £75, yn ôl Llywodraeth Cymru.