Uwch Gynghrair: Caerdydd 0-3 Tottenham Hotspur

  • Cyhoeddwyd
SpursFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Spurs oedd yn fuddugol ddydd Mawrth

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi colli eu 15 gêm ddiwethaf yn erbyn prif dimau'r Uwch Gynghrair ar ôl colli yn erbyn Spurs yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.

Er i Spurs golli yn annisgwyl yn erbyn Wolves ddydd Sadwrn diwethaf, roedden nhw ddwy gôl ar y blaen wedi dim ond 12 munud ar Ddydd Calan yn ne Cymru.

Harry Kane sgoriodd y gyntaf - a honno ychydig yn ffodus efallai - gan sicrhau ei fod bellach wedi sgorio yn erbyn bob tîm y mae wedi eu hwynebu yn Uwch Gynghrair Lloegr.

O fewn dim roedd Christian Eriksen wedi dyblu'r fantais, ac fe ychwanegodd Son Heung-min y drydedd wedi 26 munud.

Roedd y gêm ar ben fel gornest, ond fe wnaeth tîm Neil Warnock adfer eu hunan-barch drwy gadw gweddill y gêm yn ddi-sgôr.

Mae'r Adar Gleision yn parhau yn 16eg yn y tabl, tri phwynt yn glir o safleoedd y cwymp.