Cynyddu nifer llefydd disgyblion ysgol Gymraeg yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Bro AlunFfynhonnell y llun, Google

Mae Cyngor Wrecsam wedi cytuno i gynyddu'r nifer o lefydd ar gyfer disgyblion cyfrwng Cymraeg mewn ysgol yn y sir.

Cafodd y cynlluniau eu trafod a'u cymeradwyo mewn cyfarfod o'r bwrdd gweithredol ddydd Mawrth.

Yn ystod yr hydref fe wnaeth y cyngor gynnal ymgynghoriad ar gynlluniau i greu 105 o lefydd ychwanegol yn Ysgol Bro Alun, Gwersyllt.

Dywed yr awdurdod bod rhan fwyaf yr ymatebion i'r ymgynghoriad wedi bod yn gefnogol i'r newidiadau.

'Ymateb positif'

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, sy'n gyfrifol am addysg fod disgwyl i'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal gynyddu yn ystod y blynyddoedd nesaf.

"Mae'n newyddion da," meddai, "gan fod y nifer sy'n rhoi Bro Alun fel eu dewis cyntaf o ysgol yn dangos fod yna alw am addysg cyfrwng Cymraeg yng ngorllewin Wrecsam.

"Dymuniad y cyngor yw cwrdd â'r gofyn ac ry'n ni fel awdurdod wedi ymrwymo i ehangu addysg Gymraeg.

"O'r 14 ymateb a gafwyd roedd 13 yn bositif ac un yn niwtral - ac yn seiliedig ar hynny ein bwriad yw creu mwy o le yn yr ysgol."

Bydd cais cynllunio yn cael ei gyflwyno yn y dyfodol er mwyn creu mwy o lefydd yn yr ysgol. Y bwriad yw creu 15 lle ychwanegol ym mhob blwyddyn ysgol.

Mae disgwyl i'r newid mewn niferoedd ddod i rym o fis Medi 2019 ymlaen gan ddechrau gyda dosbarthiadau meithrin a derbyn.