Leigh Halfpenny yn gweld arbenigwr ynglŷn ag anaf i'w ben

  • Cyhoeddwyd
Leigh HalfpennyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Halfpenny ei anafu mewn gêm yn erbyn Awstralia ym mis Tachwedd

Mae cefnwr Cymru, Leigh Halfpenny, yn gweld arbenigwr yn dilyn cyfergyd sydd wedi ei rwystro rhag chwarae ers deufis.

Nid yw Halfpenny wedi chwarae ers iddo dderbyn tacl hwyr gan ganolwr Awstralia, Samu Kerevi, ar 10 Tachwedd.

Cafodd y cefnwr ei enwi yn nhîm y Scarlets i wynebu'r Glesion ddydd Sadwrn diwethaf, ond roedd rhaid iddo dynnu 'nol o'r garfan ar ôl dioddef o gur yn ei ben.

Dywedodd hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac, bod Halfpenny yn "teimlo'n rhwystredig iawn".

"Rydych chi'n gallu gweld anaf i'r goes, mae'r rheini'n hawdd delio â nhw, gallwch chi weld y llinell derfyn... mae hi'n anoddach deall anafiadau i'r pen," meddai.

"Mae o'n mynd i weld arbenigwr a gobeithio bydd hynny'n rhoi gwell syniad i ni o bryd fydd modd iddo ddychwelyd i'r tîm."

Ychwanegodd na fydd yn mentro chwarae Halfpenny tan ei fod 100% yn holliach.