Un o sylfaenwyr Rygbi Gogledd Cymru wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae swyddog gyda Chyngor Conwy oedd yn ffigwr blaenllaw wrth sefydlu tîm Rygbi Gogledd Cymru ym Mae Colwyn wedi marw.
Roedd John Hardy yn gyfrifol am ddatblygu stadiwm RGC ym Mharc Eirias ac yn flaenllaw wrth gydweithio gydag Undeb Rygbi Cymru i greu'r tîm.
Bydd munud o dawelwch yn cael ei gynnal ym Mharc yr Arfau, Caerdydd cyn gêm nesaf RGC yn erbyn Casnewydd ddydd Sadwrn, 5 Ionawr.
Dywedodd Sion Jones, Rheolwr Cyffredinol Datblygu Rygbi Gogledd Cymru fod gweledigaeth John Hardy wedi bod yn "allweddol wrth ddod â rygbi i'r gogledd".
"Wrth ddatblygu stadiwm Parc Eirias daeth y ganolfan yn ganolbwynt ac yn gartref i rygbi yn y gogledd."
Dywedodd Sion Jones mai John Hardy oedd y "dyn wnaeth adael i rygbi ddatblygu".
Yn ôl Cyngor Conwy Mr Hardy oedd y dyn wnaeth ddatblygu canolfan ffitrwydd ym Mharc Eirias sydd "bellach wedi bod o fudd i filoedd o bobl yng Nghonwy".
Dywedodd y Cynghorydd Mark Baker bydd John Hardy yn cael ei gofio fel dyn "ysbrydoledig".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2011