'Caffis' i'ch annog i drwsio yn lle taflu

  • Cyhoeddwyd
Un o wirfoddolwyr Caffi Trwsio Machynlleth yn atgywirio dilledyn gyda pheiriant gwnïoFfynhonnell y llun, Caffi Trwsio Machynlleth
Disgrifiad o’r llun,

Gall y cwsmer ddysgu sgiliau newydd gan wirfoddolwyr caffis trwsio fel un Ecodyfi ym Machynlleth

Beth ydych chi'n ei wneud pan mae'r tegell yn torri, un o degannau'r plant yn malu neu ddilledyn yn rhwygo? Eu rhoi nhw yn y bin a phrynu un arall?

Mae criw bach ym Methesda yn ceisio sefydlu Caffi Trwsio - sef lle i bobl ddod â phethau i gael eu trwsio a'u hannog i feddwl ddwywaith cyn taflu dillad, dodrefn a theclynnau sydd wedi torri.

Y nod ydy lleihau gwastraff ond hefyd codi ymwybyddiaeth.

"Dwi'n ffeindio fy hun yn chwilio am rywle lle fedrai drwsio pethau, dwi'n flin pan mae raid i fi brynu rhywbeth newydd," meddai Judith Kaufmann sy'n gweithio i brosiect ynni cymunedol Cyd Ynni yn Nyffryn Ogwen.

"'Dach chi'n mynd â rywbeth i siop, tegell neu rywbeth sydd wedi torri, a ma' nhw'n dweud wrthach chi 'fysa'n rhatach i chi brynu un newydd' - dwi'n flin am yr agwedd yna.

"Dwi ddim isho prynu un newydd achos nid jyst arian sy'n poeni pobl.

"Ro'n i wedi clywed am y caffis trwsio ers tro ac ro'n i'n meddwl y bysa fo'n syniad da," meddai Judith, a gafodd y syniad ar ôl trefnu sesiwn mewn ffair arbed ynni ym Methesda.

Ffynhonnell y llun, Judith Kaufmann
Disgrifiad o’r llun,

Dim gwastraff! Judith Kaufmann yn paratoi afalau i'w gwasgu.

Mae gweinidogion yn yr Undeb Ewropaidd ar hyn o bryd yn ceisio pasio polisïau i orfodi gwneuthurwyr i wneud yn siwr fod rhai nwyddau'n para'n hirach ac yn haws i'w trwsio.

Maen nhw eisiau helpu i arbed gwastraff, creu swyddi a lleihau'r nwyon tŷ gwydr sy'n dod o'r pethau rydyn ni'n eu prynu o'r newydd.

Y syniad gyda chaffis trwsio ydy bob pobl yn mynd â'u heitem yno a bod y trwsiwr yn edrych arno a gweld beth sydd angen ei wneud.

Os yw'n hawdd i'w drwsio yna mae'n gwneud hynny yn y fan a'r lle ac yn dangos i'r person sut i wneud hefyd, os ydyn nhw eisiau.

"Mae'r gwirfoddolwyr yna i wneud o i chi, ond hefyd i ddangos sut i'w wneud o - felly rhannu sgiliau a rhannu profiadau ydi'r nod, ac unwaith mae pobl yn dod i siarad ella' bod nhw'n cofio am rywbeth arall sydd wedi torri neu ddim yn gweithio dim mwy," meddai Judith.

"A tra rydych chi'n gwneud hynna rydych chi'n medru dysgu sgil newydd i drwsio rhywbeth eich hun.

Camau bach

"Dwi'n meddwl ein bod ni i gyd yn sylweddoli ein bod ni'n byw mewn ffordd anghynaliadwy wrth daflu pob dim i ffwrdd. Mae mwy a mwy o bobl sydd eisiau gwneud eu rhan yn hytrach na dweud 'Be' mae'r llywodraeth yn gallu ei wneud i newid petha?'

"Er bod o efallai'n teimlo fel camau bach mae o dros amser yn mynd i newid meddylfryd pobl a rwyt ti'n mynd i sbïo ar rywbeth eilwaith cyn ei daflu a gofyn 'oes na fodd i drwsio hwn, trio eto a rhoi cynnig arall ar y teclyn yma?'"

Os yw'r gwaith ychydig yn anoddach yna gallai'r person gael ei gyfeirio at rywun arall neu gallai'r gwirfoddolwr gynnig pris am y job meddai Judith, gan gynnig y posibilrwydd o roi ychydig o incwm i bobl hefyd.

Mae ymateb da wedi bod i'r syniad ym Methesda meddai Judith a rhai gwirfoddolwr gyda sgiliau fel gwnïo, gweu a thrwsio beics, wedi cynnig eu henwau.

Maen nhw hefyd wedi cael sêl bendith busnesau lleol sydd eisoes yn cynnig gwasanaeth tebyg, ond dydyn nhw ddim wedi llwyddo i'w sefydlu fel digwyddiad rheolaidd eto.

'Ychydig o ymdrech a gwybodaeth'

Mae mudiad Repair Cafés yn sefydliad rhyngwladol ac mae Repair Café Wales, dolen allanol yn cynnal caffis yng Nghaerdydd a Chaerffili

Ffynhonnell y llun, Caffi Trwsio Machynlleth
Disgrifiad o’r llun,

Trwsio peiriant coffi ym Machynlleth

Mae Caffi Trwsio wedi ei sefydlu hefyd ym Machynlleth ers 2017.

Mae'n cael ei gynnal gan bartneriaeth Ecodyfi yng Nghanolfan Owain Glyndŵr ar drydydd dydd Sadwrn y mis, a hynny bob yn ail fis.

Meddai Andy Rowland, cydlynydd partneriaeth Ecodyfi: "Rydyn ni eisiau helpu'r gymuned i ddefnyddio pethau yn fwy cynaliadawy ac osgoi gwastraff adnoddau, ynni ac arian.

"Mae yna bethau sy'n gallu cael eu trwsio gydag ychydig o ymdrech a gwybodaeth."

Mae Ecodyfi hefyd yn cynnal cymhorthfa trwsio yn neuadd Y Plas ddwywaith y flwyddyn, dolen allanol.

Y nod yn y pen-draw meddai Andy yw lleihau faint o bethau sy'n mynd i safleoedd tirlenwi a helpu unigolion i weld ei bod yn bosib atygyweirio.

Mae hefyd elfen o gryfhau'r gymuned meddai.

Ffynhonnell y llun, Caffi Trwsio Machynlleth
Disgrifiad o’r llun,

Mae elfen gymunedol a chymdeithasol i'r syniad o gaffi trwsio hefyd meddai Andy Rowland

Yn ôl Andy mae 'na digon o bobl yn dal o gwmpas sydd â'r sgiliau i drwsio a gwneud ailddefnydd o bethau.

Pan gynhaliodd rhai o aelodau Ecodyfi stondin drwsio ar ddiwrnod marchnad ym Machynlleth fe gafon nhw ymateb diddeall gan rai o ffermwyr yr ardal.

"Roedden nhw'n dweud 'wel, ryden ni'n gwneud y math yma o beth drwy'r adeg - pwy ydy'r bobl yma sy'n methu trwsio pethau?'!" meddai.

Ffynhonnell y llun, Caffi Trwsio Machynlleth

Hefyd o ddiddordeb: