'Dyma'r cyfnod gwleidyddol mwyaf ansicr i gynghorau'

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaethau cyngor
Disgrifiad o’r llun,

Awdurdodau lleol sy'n ariannu ysgolion, gwasanaethau gofal, casglu sbwriel a pheth trafnidiaeth leol

Mae prif weithredwr newydd Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru wedi dweud bod cynghorau'n wynebu eu cyfnod gwleidyddol mwyaf ansicr ers blynyddoedd, os nad erioed.

Dywedodd Chris Llywelyn hefyd ei bod hi'n anochel y bydd rhagor o swyddi yn cael eu colli - a hynny ymhlith y gweithwyr sy'n darparu gwasanaethau craidd fel addysg.

"O ran y cyd-destun gwleidyddol, mae'n fwy ansefydlog nag y mae hi wedi bod ers cryn dipyn o amser, os nad erioed," meddai wrth Newyddion 9.

"Y'n ni wedi cael 10 mlynedd o doriadau, sy'n golygu bod awdurdodau lleol a ni fel corff yn gorfod ymdopi â cholli swyddi tra'n darparu gwasanaethau o'r safon uchaf.

"Mae'r her o Brexit hefyd - beth sy'n mynd i ddigwydd o ran yr Undeb Ewropeaidd - felly mae'n bwysig ein bod ni'n barod fel sector i'r her hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Chris Llywelyn yw prif weithredwr newydd Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru

Ychwanegodd Mr Llywelyn ei bod yn debygol iawn y bydd rhagor o swyddi gydag awdurdodau lleol yn cael eu colli.

"Mae awdurdodau'n ceisio amddiffyn a blaenoriaethu gwasanaethau statudol - pethau fel gwasanaethau cymdeithasol ac addysg," meddai.

"Dros y 10 mlynedd diwethaf mae'r gwasanaethau hynny sydd ddim yn statudol wedi dioddef lot o'r toriadau.

"Ond mae'n ymddangos nawr ein bod yn cyrraedd sefyllfa ble bydd swyddi'n cael eu colli ar draws awdurdodau lleol - yn anochel yn y gwasanaethau craidd hefyd."

'Treth y cyngor am godi'

Dywedodd Mr Llywelyn hefyd ei fod yn disgwyl gweld treth y cyngor yn codi, a hynny o o leiaf 5%.

"Mae cyllideb y llywodraeth yn seiliedig ar yr amcan y bydd treth y cyngor yn codi o ryw 6.2%," meddai.

"Fe fyddwn i'n tybio ei bod yn anochel y byddwn yn gweld trethi'n codi o 5% neu fwy."