'Argyfwng' colli 28,000 o swyddi cyngor ers 2010
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorau Cymru wedi dileu 28,100 o swyddi cyhoeddus dros yr wyth mlynedd diwethaf, yn ôl ffigyrau sydd wedi'u casglu gan undeb Unsain.
Maen nhw'n dweud y cafodd y swyddi eu colli ar raddfa debyg i'r nifer a gollwyd yn y diwydiant glo wedi streic y glowyr yn y 1980au.
Dywedodd yr undeb fod cynghorau wedi colli "byddin o lyfrgellwyr, gweithwyr ieuenctid a staff cynorthwyol ysgolion", gan osod y bai ar bolisi llymder Llywodraeth y DU.
Yn ôl llefarydd ar ran y Trysorlys, mater i Lywodraeth Cymru oedd cyllido lleol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cynnig "y setliad gorau posib yn nawfed flwyddyn llymder" i lywodraeth leol.
Mae Unsain yn cydnabod fod gwariant cynghorau yn uwch nag oedd yn 2010, ond mae'r undeb yn dadlau nad yw'r gwariant wedi cadw'n unol â chwyddiant.
Wrth ddadansoddi'r gwasanaethau sy'n cael eu gwneud gan gynghorau, mae Unsain yn honni ers 2009-10 yng Nghymru fod:
Gwariant ar gynllunio a rheoleiddio wedi mwy na haneru;
Cyllidebau llyfrgelloedd wedi cael eu cwtogi o draean;
Gwariant ar ffyrdd a thrafnidiaeth wedi cael ei gwtogi o chwarter;
Gwasanaethau cymdeithasol yw'r unig adrannau sydd heb weld toriadau gwario.
Mae Unsain hefyd yn honni fod nifer y swyddi cyhoeddus sydd wedi'u colli gyfystyr â gweithluoedd Cwmni Dur Tata, Admiral, Airbus, Trafnidiaeth dros Gymru, Brains a Chymdeithas Adeiladu'r Principality oll gyda'i gilydd.
Am bob chwe swydd cyngor yn 2010, pump sydd yna bellach, ac mae dros 1,000 o swyddi mewn 15 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi diflannu.
Ar draws y sector cyhoeddus yn gyfan, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn awgrymu gostyngiad o 33,000 o swyddi rhwng Mehefin 2010 a Mehefin 2018.
O fewn llywodraeth leol, mae ffigyrau'r SYG, sy'n cael eu casglu'r chwarterol gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol, yn dweud bod nifer y gweithwyr wedi disgyn o 164,600 yn 2010 i 136,500 yn 2018.
Dywedodd Unsain nad yw hynny'n cynnwys gweithwyr cyngor sydd wedi colli'u gwaith i asiantaethau allanol dros y cyfnod yna, ond yn fwy diweddar mae tuedd tuag at ddod â gwaith yn ôl o dan adain y cynghorau.
'Sefyllfa o argyfwng'
Dywedodd pennaeth llywodraeth leol Unsain, Bethan Thomas: "Pe byddai 28,000 o swyddi yn y sector preifat o dan fygythiad, fe fyddai llywodraethau yn gwneud popeth i ofyn i fusnesau 'sut fedrwn ni helpu?'.
"Fe fyddai addewidion am fuddsoddiad a thasglu arbennig yn cael ei sefydlu.
"Rydym mewn sefyllfa o argyfwng. Dim ond oherwydd ymroddiad gweithwyr cyngor sy'n mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau y mae ein gwasanaethau lleol yn gweithio o gwbl.
"Does dim lle i fwy o doriadau yn ein gwasanaethau cyhoeddus."
Mae Unsain yn galw am atal rhaglen llymder Llywodraeth y DU, a mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Mae'r undeb hefyd am weld Llywodraeth Cymru yn gweithredu drwy gyflwyno setliadau grant bob tair blynedd, dod â chyllidebau cynghorau yn ôl i lefelau 2013-14 ac i weithio gyda chynghorau i ryddhau ffynonellau refeniw sy'n bodoli'n barod.
Ymateb
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ceisio cynnig i lywodraeth leol y setliad gorau posib yn y nawfed flwyddyn o lymder ac yn wyneb toriad o £850m i'n cyllideb dros ddegawd gan Lywodraeth y DU.
"Yr wythnos ddiwethaf fe wnaethon ni gyhoeddi £141.5m yn ychwanegol i lywodraeth leol, gan gynnwys codi'r llawr cyllido fel nad oes yr un awdurdod lleol yn wynebu toriad o fwy na 0.5%.
"Rydym yn bwriadu deddfu i gefnogi cynghorau i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau ac i godi arian yn lleol, yn ogystal â gweithio gyda nhw i ryddhau ffynonellau arian sy'n bodoli'n barod."
Mynnodd llefarydd ar ran y Trysorlys bod grant Llywodraeth Cymru o Lywodraeth y DU wedi tyfu i dros £16bn erbyn 2020.
Ychwanegodd: "Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd bwerau trethu a benthyg y gallan nhw'u defnyddio i gefnogi eu blaenoriaethau yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2018