Ateb y Galw: Yr actor Iestyn Arwel

  • Cyhoeddwyd
Iestyn ArwelFfynhonnell y llun, Iestyn Arwel

Yr actor Iestyn Arwel sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Griff Lynch yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Tŷ Nain a Taid yn Llanfrothen cyn priodas y'n ewythr. O'n i'n ddwy a hanner ac o'dd Mam wedi ngwisgo fi lan fel morwr. Livid.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Athrawes dros dro oedd gen i ym mlwyddyn 3. Odd hi'n edrych fel Jet o Gladiators ond o'dd ganddi un lygad las ac un werdd. O'n i'n meddwl o'dd hi'n magical.

Ffynhonnell y llun, Gladiators
Disgrifiad o’r llun,

Roedd athrawes Iestyn yn edrych fel Jet o gyfres Gladiators, ond ei bod hi llawer mwy hudolus

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Nes i gwympo wrth redeg ar draws roundabout a 'nath siorts gym fi ddisgyn a welodd pawb ar fws ysgol pen-ôl fi a 'nath saith car ganu corn. Mortifying!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Ddoe yn cysgodi golygfa Rownd a Rownd fel cyfarwyddwr. Dim spoilers ond o'dd hi'n olygfa emosiynol!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gormod i'w rhestru. Dwi'n wael am wastraffu amser.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ynys Llanddwyn - dim angen esboniad.

Ffynhonnell y llun, Gavin Hardie
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa odidog ar Ynys Llanddwyn

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Efrog Newydd. Nes i syrpreisio ffrind o adre o'dd yn ymweld yr un amser mewn noson bingo. 'Nethon ni ennill llwyth o champagne wedyn blagio'n ffordd i mewn i glwb nos ar lawr ucha'r Standard Hotel. Criw mawr o adre yn dawnsio wrth edrych ar yr Empire State. Anhygoel.

O archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Bolgi blewog siaradus.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

A Little Life gan Hanya Yanagihara. Portread craff o gyfeillgarwch a chariad.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Gertrude Stein - hi oedd yn rhoi cyngor i Pablo Picasso ac Ernest Hemingway am eu gwaith. Byw yn Paris a joio drinc.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mi o'n i'n understudy i Michael Palin yn sioe fyw Monty Python yn yr O2.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Palin yn un o aelodau gwreiddiol criw Monty Python, a hynny ers diwedd y 60au

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Treulio'r dydd gyda'n ffrindiau a 'nheulu yn bwyta bwyd da yn edrych ar yr haul yn machlud dros y môr.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Africa gan Toto - ma'n dod â gwên bob tro.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Pâté macrell gyda Halen Môn ar sourdough, chateaubriand gyda thatws dauphinoise ac anchovy hollandaise, pwdin bara menyn brioche.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Obama.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Iestyn a Meilir yn actio'r cariadon David a Rhys ar y gyfres Rownd a Rownd, cyn i David farw mewn damwain car

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Meilir Rhys Williams

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw