Colli 220 o swyddi yn ffatri Schaeffler yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Schaeffler

Daeth cadarnhad y bydd 220 o swyddi mewn ffatri yn Llanelli sy'n cyflenwi nwyddau diwydiannol a modurol yn cael eu colli cyn diwedd y flwyddyn.

Daw wedi i gwmni Schaeffler gynnal cyfnod ymgynghori 45 diwrnod gyda staff ac undebau am ddyfodol y safle.

Bydd diswyddiadau'n dechrau yn yr haf, a bydd y ffatri'n cau yn llwyr cyn diwedd 2019.

Dywedodd y cwmni bod Brexit yn ffactor yn y penderfyniad, ond mai nid dyma'r sbardun.

Roedd Schaeffler wedi cyhoeddi eu bwriad i gau'r ffatri ym mis Tachwedd, cyn dechrau ar y cyfnod ymgynghori.

Mae disgwyl i'r cwmni weithio gyda staff, undebau a Llywodraeth Cymru i geisio canfod gwaith gyda chwmnïau eraill i'r rheiny fydd yn colli eu swyddi.

'Canlyniad derbyniol'

"Gallwn gadarnhau bod yr ymgynghoriad gyda gweithwyr yn ein ffatri yn Llanelli wedi dod i ben a bydd y safle yn cau ar ddiwedd 2019," meddai rheolwr gyfarwyddwr Schaeffler UK, Greig Littlefair.

"Ry'n ni wedi cynnal trafodaethau cyson ac adeiladol gyda'r staff, Unite a'r sefydliadau gwleidyddol perthnasol trwy'r broses, ac er y cynigion anodd oedd yn cael eu trafod, ry'n ni'n credu ein bod wedi cael canlyniad derbyniol i'r ddwy ochr.

"Byddwn yn parhau i gynnig cefnogaeth i'r gweithwyr yn y misoedd sydd i ddod."

Dywedodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates ei fod yn "siomedig â'r cyhoeddiad".

"Bydd hyn wrth gwrs yn amser cythryblus i'r gweithwyr a'u teuluoedd, ond rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda Schaeffler i gynnig cefnogaeth i'r gweithlu a chadw swyddi o safon uchel yn y rhanbarth," meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi "sefydlu tasglu i ymgymryd â'r gwaith" o gefnogi'r staff.