Gwrthod cais Caerdydd am fwy o amser i arwyddo chwaraewyr
- Cyhoeddwyd
Mae cais Clwb Pêl-Droed Caerdydd am "ystyriaeth arbennig" o ran arwyddo chwaraewyr yn dilyn diflaniad Emiliano Sala wedi cael ei wrthod gan Uwch Gynghrair Lloegr.
Fe wnaeth yr ymosodwr 28 oed o'r Ariannin ymuno â Chaerdydd o Nantes am £15m - y swm uchaf erioed i'r Adar Gleision dalu am chwaraewr.
Mae'r ffenestr drosglwyddo yn cau ar ddiwedd mis Ionawr, ac fe wnaeth Prif Weithredwr Caerdydd, Ken Choo, gynnal trafodaethau gyda swyddogion yr Uwch Gynghrair ynglŷn â'r posibilrwydd o gael mwy o amser i arwyddo chwaraewyr.
Ond mae Mr Choo wedi cadarnhau "nad oedd yn rhywbeth y gallai'r Uwch Gynghrair ei ystyried", a bod y clwb yn deall ac yn derbyn hynny.
Ychwanegodd y clwb eu bod yn gwerthfawrogi cefnogaeth yr Uwch Gynghrair dros yr wythnos ddiwethaf, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer teyrngedau i Sala.
Mae'r gynghrair eisoes wedi cadarnhau y bydd munud o dawelwch yn cael ei gynnal ym mhob gêm fel teyrnged i Sala a'r peilot David Ibbotson.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2019