Gwrthod cyflwyno mesur awtistiaeth i Gymru yn 'ergyd'
- Cyhoeddwyd
Mae mam i blentyn sydd ag awtistiaeth wedi dweud ei fod yn "ergyd" fod ACau wedi pleidleisio yn erbyn cyflwyno cyfraith i roi mwy o gefnogaeth i bobl sydd â'r cyflwr.
Mae Beth Evans o Hwlffordd wedi treulio blynyddoedd yn ceisio sicrhau diagnosis a chefnogaeth i'w mab George, 12.
Fe wnaeth hi ymgyrchu o blaid mesur awtistiaeth, oedd wedi'i awgrymu gan arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, ond ni lwyddodd i ddenu cefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething ei fod wedi ymrwymo i wella gwasanaethau awtistiaeth.
'Dim diddordeb'
Roedd ACau'r gwrthbleidiau wedi cefnogi cais Mr Davies am gyfraith newydd, ond fe wnaeth Llafur ac aelodau eraill y llywodraeth bleidleisio yn ei erbyn ar 16 Ionawr.
Roedd Mr Davies yn mynnu y byddai'r mesur wedi sicrhau bod cael diagnosis yn haws a galluogi i staff gael hyfforddiant priodol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod pwerau eisoes mewn lle i gyflawni gwelliannau i wasanaethau.
"Mae'n bendant yn ergyd," meddai Ms Evans, gan ychwanegu bod nifer o ACau "wedi bod yn wych".
"Roedd rhai eraill â dim diddordeb mewn siarad, dim diddordeb gwrando ar y straeon sydd gennym ni i'w dweud," meddai wrth raglen Sunday Politics Wales.
"Roedd nifer wedi gwneud eu penderfyniad yn barod. Dim ots faint o ymchwil a thystiolaeth wnaeth y Gymdeithas Awtistiaeth, doedden nhw fyth am newid eu meddyliau."
'Pryderus iawn'
Roedd y Gymdeithas Awtistiaeth yn cefnogi'r ddeddfwriaeth, gan ddweud y byddai'n "gwella'r gefnogaeth ar gyfer y 34,000 o bobl ag awtistiaeth yng Nghymru".
Ond roedd Llywodraeth Cymru'n poeni y byddai'r mesur yn creu'r argraff bod pobl ag awtistiaeth yn cael blaenoriaeth, fyddai wedi gweld adnoddau'n cael eu tynnu oddi wrth adrannau eraill.
Dywedodd Mr Davies ei fod yn "bryderus iawn am y ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i hyn".
"Mae 'na ddiwylliant o fewn Llywodraeth Lafur Cymru i beidio cefnogi mesurau neu ddeddfwriaeth sy'n cael eu cyflwyno gan y gwrthbleidiau," meddai.
Dywedodd Mr Gething ei fod wedi cydnabod ar sawl achlysur "bod y ddarpariaeth bresennol ddim yn ddigon da" a'u bod wedi ymrwymo i'w wella.
"Mae 'na deuluoedd sydd wedi ymwneud â'r gwasanaethau newydd sydd wedi cael eu cyflwyno, sy'n cydnabod ei fod wedi gwneud gwahaniaeth," meddai.
Ychwanegodd, pe bai'n dod i'r amlwg nad yw strategaeth y llywodraeth yn gweithio, y byddai'n fodlon "edrych eto ar gyflwyno deddfwriaeth i weld os mai dyma'r ateb cywir".
Sunday Politics, BBC One Wales, 11:00 dydd Sul 27 Ionawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2016