Teulu Sala'n 'ei chael yn anodd delio â'u colled aneglur'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu'r pêl-droediwr Emiliano Sala yn "ei chael yn anodd delio gyda'r ychydig iawn o atebion sydd ynglŷn â'u colled aneglur", yn ôl llefarydd ar eu rhan.
Fe ddaeth y gwaith swyddogol o chwilio am ymosodwr Caerdydd, 28, a'r peilot David Ibbotson, 59, i ben ddydd Iau.
Fe wnaeth yr awyren Piper Malibu ddiflannu wrth iddi hedfan dros Fôr Udd ar ei ffordd o Nantes i Gaerdydd nos Lun.
Mae'r teulu, sydd wedi teithio i Guernsey ddydd Sul, wedi diolch i'r rheiny sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch i gasglu dros €320,000 i barhau i chwilio am yr awyren.
'Person ar goll'
"Dyma deulu sydd wedi dod o'r Ariannin gyda'r sioc enfawr yma, ac maen nhw'n ei chael yn anodd delio gyda'r ychydig iawn o atebion sydd ynglŷn â'u colled aneglur," meddai llefarydd ar ran y teulu, David Mearns.
Ychwanegodd bod gan y teulu "rhyw obaith", gan ychwanegu eu bod yn trin y sefyllfa fel "person ar goll".
Dywedodd eu bod wedi teithio i Guernsey i fod yn agos at ble cafodd yr awyren ei cholli a chael mwy o wybodaeth am beth fydd yn digwydd nesaf.
Ychwanegodd Mr Mearns, sy'n arwain ymgyrch chwilio'r teulu: "Ar ryw bwynt yn y dyfodol byddwn yn edrych i ddechrau chwilio dan y dŵr."
Fe wnaeth dau gwch preifat ailddechrau chwilio am yr awyren goll ddydd Sadwrn a bore Sul.
Mae chwaraewyr fel Kylian Mbappe ac Adrien Rabiot o Paris Saint-Germain, Dimitri Payet o Marseille, Ilkay Gundogan o Manchester City a Laurent Koscielny o Arsenal wedi cyfrannu at yr ymgyrch.
Mewn neges ar wefan godi arian GoFundMe dywedodd y teulu bod y digwyddiad yn mynd "ymhell tu hwnt i bêl-droed", gan ychwanegu y byddai pob ceiniog o'r arian yn cael ei wario i geisio dod o hyd i'r awyren.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2019