Gollwng cyhuddiad yn erbyn haciwr cyfrifiadurol

  • Cyhoeddwyd
Daniel Kelley
Disgrifiad o’r llun,

Daniel Kelley yn gadael y llys yn ystod yr achos gwreiddiol yn 2016

Mae erlynwyr wedi gollwng cyhuddiad o flacmel yn erbyn dyn 21 oed o Sir Gaerfyrddin sydd eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiadau'n ymwneud â hacio cyfrifiadurol.

Roedd achos i fod i ddechrau yn llys yr Old Bailey ddydd Llun yn erbyn Daniel Kelley o Lanelli.

Roedd wedi ei gyhuddo o fynnu taliad anghyfreithlon rhwng Tachwedd 2015 a Ionawr 2016 am Bitcoins - arian rhithwir sy'n cael ei ddefnyddio yn y byd cyfrifiadurol, ac mae modd eu cyfnewid am nwyddau ar-lein.

Ond fe glywodd y llys fod y diffynnydd wedi bod yn dioddef oherwydd iselder a dywedodd yr erlyniad na fyddai parhau â'r achos o fudd i'r cyhoedd.

Yn 2016, fe blediodd Kelley yn euog yn yr un llys i 11 o gyhuddiadau'n ymwneud â hacio a thwyll ariannol.

Roedd wedi hacio system gyfrifiadurol TalkTalk i gael data dros 150,000 o gwsmeriaid.

Roedd y ddedfryd am y troseddau hynny wedi cael ei gohirio tan ddiwedd yr ail achos a ddaeth i ben ddydd Llun.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl mai ar 25 Chwefror y bydd y gwrandawiad dedfrydu.

Roedd Coleg Sir Gâr - lle bu Kelley yn fyfyriwr - ymhlith y sefydliadau a gafodd eu targedu ganddo.