Cofio cap cynta' 70 mlynedd yn ôl
- Cyhoeddwyd
70 mlynedd yn ôl i eleni enillodd yr asgellwr Windsor Major, o Langynwyd ger Maesteg, ei gap rygbi cyntaf i Gymru yn erbyn Ffrainc. Ef bellach yw'r unig un o'r tîm hwnnw sydd dal yn fyw.
Bu'n hel atgofion gyda Cymru Fyw am y profiad o gynrychioli ei wlad.
"Wharaes i gynta' i Faesteg pan ro'n i bwyti 16 ne 17, ro'n i yn fit ac yn cerdded llawer wrth witho ar ffarm Gilfach Ucha.
"Roedd hyfforddi ar gyfer gemau yn dipyn gwahanol i beth yw e nawr," meddai Windsor. "O ran treino, yr hyn ro'n i arfer neud o'dd rhedeg rownd cae ar y fferm, 'neud sprints. Ro'n i arfer treino peth hefyd gyda Maesteg wrth gwrs.
"Do'n i byth yn aros ar ôl gêm i gael bwyd a phethach, achos ro'n i gorfod mynd nôl adre i odro. Pob tro ro'n i yn chware bant ro'n i yn cael ffrind i odro drostai."
Ymhen amser galwyd ar Windsor i wneud ei wasanaeth milwrol. Dewiswyd e i chwarae i'r Catrawd Cymreig a bron yn syth cafodd ei ddewis i dîm Byddin Prydain.
Ond mae'r ffordd y daeth y newyddion ei fod wedi ei ddewis i gynrychioli ei wlad, yn dyddio o'r oes a fu.
"Ro'dd un bachan o'r pentre' wedi clywed ar y wireless ond ces i wybod ar ôl i ddau fachan o committee Maesteg ddod lan ata i yn y bus station," cofiai Windsor.
Mae Windsor yn cofio'n glir y daith allan i Ffrainc i gael ei gap cyntaf.
"Dechre draw ar ddydd Mercher a dala fferi o Dover i Calais, ac wedyn lawr i du fas Paris, ac aros yn Hotel Nantes 'wi'n credu odd e. Wnaethon nhw ddim rhoi llawer o groeso i ni cyn y gêm. Ond mi ro'n nhw yn iawn ar ôl hynny - a dyma'r tro cynta' hefyd i fi flasu Champagne."
Yn anffodus, nid oedd Windsor a'r tîm angen y Champagne ar ddiwedd y gêm...
"Gollon ni o 5 pwynt i 3. Ken Jones sgoriodd i ni ond fe fethon ni'r gic at y pyst. Wedyn 'wi'n cofio cais y Ffrancod gan fachan o'r enw Lasségue, asgellwr o'dd e 'wi'n credu. A 'wi mor falch i glywed ei fod e hefyd dal yn fyw yn 94 oed. 'S'nam lot o'n ni dal rownd!"
Dyma hefyd oedd gêm gynta' Clem Thomas, y blaenasgellwr, a oedd yn rhan o'r tîm a drechodd y Crysau Duon yn 1953.
Wrth gwrs, mae bywyd chwaraewr rygbi dipyn gwahanol heddiw i'w gymharu â'r 1940au.
"Ddath neb o'r teulu mas i Baris i weld fi'n whare. Bydde nhad wedi joio ond doedd dim pasbort gyda fe, do'dd dim llawr o bobl â pasborts bryd hynny."
Cafodd Windsor ei ail gap i'w wlad yn erbyn yr Alban yn 1950 - y flwyddyn aeth Cymru ymlaen i ennill y Gamp Lawn - a dyna oedd y tro olaf iddo gynrychioli ei wlad.
"Ar ôl mynd mas o'r army, ro'n i'n gorfod gweithio ar y ffarm a do'dd dim amser 'da fi i whare. Ac os o'ch chi isie bod yn nhîm Cymru ro'dd rhaid i chi fod yn llefydd fel Caerdydd, Casnewydd, Llanelli ne Abertawe… y llefydd mawr… dim Maesteg."
Fe chwaraeodd Windsor hefyd i Aberafan ac i dîm Cymry Llundain yn ystod ei yrfa, ochr-yn-ochr â rhedeg y fferm.
Ar ôl iddo ymddeol, ymgartrefodd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac yno y bydd yn gwylio gemau rygbi'r Chwe Gwlad eleni.
"Fan hyn fydda i'n gweld y gêm ar y teledu, a gobitho bydd Cymru yn ennill, ontife."
Hefyd o ddiddordeb: