Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Ffrainc v Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gareth AnscombeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Anscombe fydd yn dechrau'r gêm yn safle'r maswr

Mae ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn dechrau gyda thaith i Baris, Ffrainc nos Wener.

Ar ôl gorffen Cyfres yr Hydref yn ddiguro am y tro cyntaf erioed, bydd carfan Warren Gatland yn llawn hyder wrth iddynt obeithio ennill eu degfed gêm o'r bron.

Mae Cymru wedi enwi 15 profiadol ar gyfer y daith i'r Stade de France, a bydd diddordeb mawr i weld a fydd partneriaeth Tomos Williams a Gareth Anscombe - sy'n cychwyn fel mewnwr a maswr - yn effeithiol ar y lefel rhyngwladol.

Y sioc fwyaf yn nhîm Ffrainc yw'r ffaith nad yw'r is-gapten Mathieu Bastareaud wedi ei gynnwys, gyda Romain Ntamack, 19 oed, yn cael ei enwi yn safle'r canolwr.

Eleni yw'r tro olaf y bydd Gatland wrth y llyw ar gyfer y Chwe Gwlad, a bydd yn gadael ei rôl ar ôl Cwpan y Byd yn yr hydref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gêm ddiwethaf Cymru ym Mharis yn enwog am bara bron i 100 munud

Mae Cymru wedi trechu Ffrainc chwe gwaith allan o'r saith gêm ddiwethaf, gan gynnwys dwy fuddugoliaeth o dair ym Mharis.

Roedd hi'n gêm ofnadwy o glos y tro diwethaf i'r ddwy wlad herio'i gilydd, a hynny yn Stadiwm Principality ym mis Mawrth y llynedd.

Llwyddodd Cymru gipio buddugoliaeth o 14-13 yn dilyn perfformiad amddiffynnol cofiadwy.

Colli oedd hanes Cymru y tro diwethaf iddyn nhw deithio i Baris, a hynny wedi bron i 100 munud o chwarae, wedi cais hwyr gan Damien Chouly.

Ffynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ken Owens yn ennill ei 61ain cap yn erbyn Ffrainc nos Wener

Mae disgwyl i Ken Owens dorri record nos Wener, gan mai ef fydd wedi chwarae'r nifer fwyaf o gemau i Gymru yn safle'r bachwr - 61.

Bydd Owens ar frig y rhestr sy'n cynnwys Matthew Rees (60), Garin Jenkins (58) a Huw Bennett (51).

Dywedodd Gatland: "Mae e'n haeddu derbyn y clod yma. Mae o'n berson ardderchog ar y cae ac oddi wrth y maes chwarae, yn ogystal â bod yn arweinydd gwych."

'Momentwm yn hollbwysig'

Y clo profiadol Alun Wyn Jones capten Cymru, gydag Adam Beard - sydd eto i golli yng nghrys Cymru - yn ymuno ag o yn yr ail reng.

Nid yw'r cefnwr Leigh Halfpenny (cyfergyd), y maswr Rhys Patchell (llinyn y gar) na'r canolwr Scott Williams (pigwrn) ar gael oherwydd anafiadau.

Ond mae digon o brofiad ar fainc Cymru, gyda Gareth Davies a Dan Biggar ymysg yr eilyddion.

Dywedodd Wyn Jones: "Mae momentwm yn hollbwysig, ond dydyn ni ddim yn canolbwyntio ar dorri recordiau... ein ffocws ni yw'r perfformiad."

Tîm Cymru

Liam Williams (Saracens); George North (Gweilch), Jonathan Davies (Scarlets), Hadleigh Parkes (Scarlets), Josh Adams (Caerwrangon); Gareth Anscombe (Gleision), Tomos Williams (Gleision); Rob Evans (Scarlets), Ken Owens (Scarlets), Tomas Francis (Caerwysg), Adam Beard (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch, capten), Josh Navidi (Gleision), Justin Tipuric (Gweilch), Ross Moriarty (Dreigiau).

Eilyddion: Elliot Dee (Dreigiau), Wyn Jones (Scarlets), Samson Lee (Scarlets), Cory Hill (Dreigiau), Aaron Wainwright (Dreigiau), Gareth Davies (Scarlets), Dan Biggar (Northampton), Owen Watkin (Gweilch).

Tîm Ffrainc

Maxime Medard; Damian Penaud, Wesley Fofana, Romain Ntamack, Yoann Huget; Camille Lopez, Morgan Parra; Jefferson Poirot, Guilhem Guirado (capten), Uini Atonio, Sebastien Vahaamahina, Paul Willemse, Wenceslas Lauret, Arthur Iturria, Louis Picamoles.

Eilyddion: Julien Marchand, Dany Priso, Demba Bamba, Felix Lambey, Gregory Alldritt, Baptiste Serin, Gael Fickou, Geoffrey Doumayrou.

Hefyd o ddiddordeb: