Pwy fydd yn ennill y Chwe Gwlad eleni?

  • Cyhoeddwyd

Iwerddon y ffefrynnau? Trefn y gemau'n ffafrio Cymru? Chwaraewyr ifanc Ffrainc am greu argraff?

Ar drothwy Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2019, fe ofynnon ni i gyflwynwyr Y Clwb Rygbi, Gareth Rhys Owen a Catrin Heledd, a'r pyndit a chyn-chwaraewr rhyngwladol, Nicky Robinson, beth maen nhw'n ei ragweld yn digwydd yn y gystadleuaeth eleni.

pundits

Pwy ydych chi'n meddwl fydd yn ennill y Chwe Gwlad eleni a pham?

Gareth Rhys Owen: Yn amlwg Iwerddon yw'r ffefrynnau ond fydd Cymru yn hapus 'da trefn eu gemau nhw.

Yn gyhoeddus mae Warren Gatland yn honni base buddugoliaeth yn Ffrainc nos Wener yn rhoi cyfle ardderchog i ennill y bencampwriaeth. Dwi 'di clywed bod Gatland, tu ôl i ddrysau caeëdig, yn dweud yn blwmp ac yn blaen bod ennill y Gamp Lawn yn bosibilrwydd wedi llwyddiant ym Mharis.

Felly dwi am gytuno 'da Gats. Mae Cymru am ennill y Chwe Gwlad… Urgh dwi'n anghyfforddus yn mynegi cymaint o hyder. Ond ie, Cymru i ennill.

Catrin Heledd: A hithau'n flwyddyn Cwpan y Byd ma' hi'n addo bod yn fwy cystadleuol nag erioed o'r blaen. Mae Cymru ar rediad da ar ôl ennill naw o'r bron - a gallwch chi fyth ddiystyru Lloegr ond mae'n anodd gweld unrhyw un yn curo Iwerddon ar hyn o bryd. Er pwy a ŵyr fe alle'r fantais o fod gartre ar benwythnos ola'r bencampwriaeth fod yn dyngedfennol i Gymru,

Nicky Robinson: Mi fydden ni'n dysgu lot wedi'r penwythnos cyntaf. Dwi'n meddwl bydd Iwerddon yn ennill ond dwi ddim yn rhagweld neb yn cael Camp Lawn - bydd pob tîm yn colli o leiaf un gêm.

iwerddonFfynhonnell y llun, David Rogers - RFU
Disgrifiad o’r llun,

Y Gwyddelod yn dathlu ennill y Gamp Lawn yn Twickenham y llynedd... ond beth yw eu gobeithion i adennill y bencampwriaeth eleni?

Fydd 'na Gamp Lawn/Coron Driphlyg?

GRhO: Yng nghyd-destun Cymru fyddan nhw naill ai'n ennill y ddwy neu'r un o gwbl.

CH: Coron Driphlyg falle ond dim Camp Lawn - ar eu diwrnod dwi'n meddwl bod pob un o'r timau ma' â'r gallu i greu sioc - hyd yn oed yr Eidal ddaeth yn agos yn erbyn yr Alban y llynedd ond sydd ddim 'di ennill gêm yn y Chwe Gwlad ers tair blynedd.

NR: Annhebygol o ddigwydd, ond fe all Iwerddon, Lloegr neu Gymru ennill Camp Lawn. Os bydd tîm yn ennill y Gamp Lawn, byddan nhw'n haeddu fe. Gall gêm Cymru v Iwerddon ar y penwythnos olaf fod yn decider, ond mae lot o rygbi i'w chwarae rhwng nawr a hynny.

Pa chwaraewyr ddylwn ni edrych allan amdanyn nhw?

GRhO: O ran Cymru, ma' 'na gynnwrf mawr am y blaenasgellwr Aaron Wainwright. Ma'n gyflym, yn bwerus ac yn eithriadol o heini. A gan mai pêl-droediwr (i Gasnewydd) oedd e nes yn hwyr yn ei arddegau, mae 'na botensial aruthrol i dyfu.

O'r timau eraill, bydd Peter O'Mahoney yn boen yn y pen-ôl i bob tîm sy'n wynebu Iwerddon tra bo' gobeithion Lloegr yn ddibynnol ar ffitrwydd Billy Vunipola.

wainwrightFfynhonnell y llun, Romain Perrocheau
Disgrifiad o’r llun,

Aaron Wainwright, y blaenasgellwr 21 oed o Gasnewydd sydd wedi creu dipyn o argraff y tymor hwn.

CH: Fe fyddai hi'n hawdd dewis un o'r olwyr fan hyn i Gymru ond dwi'n mynd i fynd am aelod o'r pac sy'n aml yn neud y gwaith caib a rhaw er mwyn rhoi platfform i'r olwyr: Justin Tipuric. Ers i Sam Warburton ymddeol mae e 'di sicrhau bod e'n amhrisiadwy yn y rheng ôl - yn gweithio'n ddiwyd ac yn dawel. Ac ar ôl cael ei wneud yn gapten ar y Gweilch mae e'n datblygu i fod yn arweinydd ar y cae i Gymru hefyd.

Ac i Iwerddon, Garry Ringrose - mae 'di bod ar dân i Leinster y tymor hwn - diddorol fydd ei weld e a Bundee Aki yn tanio yn y canol.

NR: Tomos Williams y mewnwr. Dwi'n edrych ymlaen at weld sut bydd e'n ymdopi ar y lefel uchaf. Hefyd rwy'n edrych ymlaen at weld sut fydd Aaron Wainwright yn perfformio.

O ran y timau eraill, dwi eisiau gweld sut fydd canolwr ifanc cyffrous Ffrainc, Romain Ntamack, yn chwarae - mae lot o sôn 'di bod amdano fe.

NtamackFfynhonnell y llun, REMY GABALDA
Disgrifiad o’r llun,

Romain Ntamack, mab un o fawrion rygbi diwedd y 90au, Émile Ntamack. Bydd Romain Ntamack yn ennill ei gap cyntaf yn erbyn Cymru ym Mharis.

Pa gêm ydych chi'n edrych mlaen ati fwyaf eleni a pham?

GRhO: Iwerddon yn erbyn Lloegr. Fydd canlyniad y gêm honno yn hollbwysig.

CH: Mae pob un gêm â'i rhinweddau! Mae mynd ar y teithiau yn hwyl ond dwi'n meddwl y gallai'r penwythnos olaf yng Nghaerdydd rhwng Cymru ac Iwerddon fod yn hollbwysig heb anghofio gêm gynta'r Gwyddelod, sef gartref yn erbyn Lloegr. Fe allai hynny fod yn dyngedfennol.

NR: Y gêm agoriadol - Cymru yn chwarae ym Mharis ar y penwythnos cyntaf. Dwi erioed 'di bod mas yn Ffrainc ar gyfer gêm Chwe Gwlad o'r blaen. Bydd e'n dda gweld sut bydd cyffro'r gystadleuaeth yn dechre mas 'na.

Pa gêm oddi cartref ydych chi'n mwynhau teithio iddi fwyaf a pham?

GRhO: Rhufain: bwyd da, hanes, lleoliadau eiconig a'r gallu i osgoi crysau coch os am bum munud o dawelwch.

CH: Dwi erioed wedi bod i Rufain ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad felly fydd hynny'n brofiad newydd 'leni.

NR: Mae'r daith i Murrayfield ddwy flynedd yn ôl yn sefyll yn y cof. Roedd 'na awyrgylch anhygoel o amgylch y dref ar y diwrnod, ac yn y stadiwm wrth gwrs. Cafodd y ddwy anthem eu canu yn wych hefyd.

albanFfynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Tommy Seymor yn sgorio'n erbyn Cymru yn Murrayfield yn 2017 - enillodd yr Alban 29-13 y diwrnod hwnnw. Ond dros y blynyddoedd diweddar y Cymry sydd wedi bod gryfaf, gan ennill 15 o'r 17 gêm ddiwethaf rhwng y ddwy wlad.

Ydych chi'n cofio eich profiad gyntaf o fynd i gêm ryngwladol?

GRhO: Gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Ffrainc ar nos Wener yn y 90au. Fel brodor o'r Gorllewin roedd ca'l ymweld â'r brifddinas yn destun cynnwrf. Dwi'n cofio'r daith yn y car, y swper ges i i fwyta a'r ffaith i ni gyrraedd nôl i Gydweli yn oriau man y bore. Ond does gen i ddim atgof o'r gêm... dyna fywyd!

CH: O'n i'n dilyn pêl-droed rhyngwladol yn gynnar iawn - dwi ddim yn meddwl i fi weld gêm rygbi ryngwladol yn fyw yn y stadiwm tan 1999 gyda Chymru yn colli yn erbyn Samoa. Siom!

NR: Mae'n debyg buddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr yn 1994. Cic lawr cae gan Emyr Lewis a Ieuan Evans yn sgorio. Ac yna fel chwaraewr roeddwn yn rhan o'r garfan ar gyfer y Chwe Gwlad yn 2006 - profiad mor, mor sbeshial.

Hefyd o ddiddordeb:

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw