Cairns ar ddeall bod ymchwiliad o blaid ffordd liniaru'r M4

  • Cyhoeddwyd
Alun Cairns
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Alun Cairns, ni fydd heol yn cael ei hadeiladu tan 2031 os nad yw Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen gyda'r cynllun nawr

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi cael ar ddeall bod adroddiad gan ymchwiliad cyhoeddus i adeiladu ffordd liniaru ar gyfer yr M4 o blaid y cynllun.

Rhybuddiodd Alun Cairns y byddai methu adeiladu'r heol, i'r de o Gasnewydd, nawr yn debygol o ohirio'r prosiect am ddeng mlynedd, man lleiaf.

Dechreuodd yr ymchwiliad ym mis Chwefror 2017, gan orffen clywed tystiolaeth ym Mawrth 2018.

Daw sylwadau Mr Cairns wedi i arweinwyr cyngor a 90 cwmni alw ar weinidogion Cymru i ddechrau'r prosiect.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, maen nhw'n parhau i edrych ar y prosiect "a fyddai'n fuddsoddiad sylweddol i isadeiledd Cymru".

'Dim heol tan 2031'

Dywedodd Mr Cairns wrth BBC Cymru na fydd yr heol yn cael ei hadeiladu tan 2031 os nad yw'n cael ei hadeiladu nawr.

"A'r rheswm yw, bydd angen aros pum mlynedd ychwanegol nes bo prif weinidog newydd yng Nghymru gyda ni, bydd eisiau ymgynghoriad newydd o tua 18 mis neu dwy flynedd, ac mae'n cymryd pum mlynedd i adeiladu'r draffordd newydd."

"Mi fydd hi'n 2031 nes bod yr heol yma'n cael ei adeiladu a so ni'n gallu colli'r amser 'ma i gyd," meddai.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud cyn hyn bod swyddogion yn dal i ddadansoddi adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus i'r cynlluniau am ffordd liniaru 14 milltir (23km), a bydd penderfyniad yn cael ei wneud wedi hynny.

Yn ôl Mr Cairns: "Mae'r arian ar gael oddi wrth Lywodraeth y DU, mae'r benthyciad yn barod i fynd, dy'n nhw ddim wedi gwario ceiniog o hwnna eto, felly mae eisiau bo ni'n mynd ati nawr."

"O'n i'n falch iawn fy mod i'n gallu cael gwared ar dollau ar bont Hafren, os dy'n ni ddim yn adeiladu'r draffordd yma nawr bydd yr impact positif dros dollau pont Hafren nawr yn cael ei deimlo i fyny at dwneli ym Mrynglas, a bydd gorllewin Cymru unwaith eto'n colli allan."

Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw adeiladu ffordd i liniaru'r traffig sy'n teithio ar hyd yr M4 ger Casnewydd

Mae Aelodau Cynulliad wedi cael addewid o bleidlais yn y Senedd am y prosiect gwerth £1.4bn, ond mae nifer o'r gwrthbleidiau yn parhau i wrthwynebu'r cynllun.

Mae perchnogion busnes yn dal i ddadlau bod angen ffordd newydd, am fod traffig o amgylch twnneli Brynglas yng Nghasnewydd yn niweidio'r economi.

Mae nifer o wrthwynebwyr wedi mynegi eu pryderon dros effaith amgylcheddol yr heol newydd ar ardal Lefelau Gwent, lle fyddai'r heol yn cael ei hadeiladu.