Sŵ Borth yn cael caniatad i gadw anifeiliaid peryglus

  • Cyhoeddwyd
Wild Animal Kingdom

Mae sŵ yng Ngheredigion, lle bu farw dau lyncs o fewn diwrnodau i'w gilydd, wedi cael caniatâd i gadw anifeiliaid peryglus ar ôl cydymffurfio gyda gorchymyn llys.

Roedd Wild Animal Kingdom Borth wedi cael eu gwahardd rhag cadw rhai anifeiliaid, ond cafodd y penderfyniad ei wyrdroi ar yr amod bod gwelliannau yn cael eu gwneud o fewn chwe mis - gan gynnwys cyflogi gofalwr addas.

Yn ôl un o berchnogion y sŵ, Tracy Tweedy, maen nhw "yng nghanol y broses o gadarnhau'r dyddiad cychwyn".

Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn ymwybodol fod "dau berson cymwys wedi eu penodi."

Mae'r sŵ wedi bod ar gau ers i Lilleth, Lyncs Ewrasiaidd, ddianc cyn cael ei difa gan swyddog arbenigol wedi iddi groesi i ardal fwy poblog o'r gymuned.

Bu farw ail lyncs, Nilly, o ganlyniad i "gamgymeriad" wrth ymdrin â'r gath wyllt.

Fe benderfynodd y cyngor fod bai ar y sŵ am beidio â dal Lilleth cyn iddi roi'r cyhoedd mewn peryg, a chafodd y sŵ ei gwahardd rhag cadw anifeiliaid categori un ym mis Tachwedd 2017.

Disgrifiad o’r llun,

Prynodd Dean a Tracy Tweedy y sŵ 10 erw am £625,000 yn 2016

Yn dilyn apêl, fe gafodd y penderfyniad ei wyrdroi ym mis Gorffennaf 2018 ar yr amod eu bod nhw'n cydymffurfio â'r rheolau ar gyfer cadw anifeiliaid o'r fath.

Mae'r anifeiliaid categori un yn Sŵ Borth yn cynnwys dau lew, tri lyncs, dau fwnci cycyllog a peithon ymysg eraill.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor: "Gyda'r dyddiad o ran y cytundeb amodau yn dod yn nês, mae'r cyngor yn deall fod dau berson cymwys wedi cael eu cyflogi a bydden nhw'n dechrau ar eu gwaith yn fuan."

Dywedodd Ms Tweedy fod gan y sŵ tan 11 Chwefror i gyd-fynd a holl ofynion y gorchymyn llys, a bod y cyngor eisoes wedi cymeradwyo'r unigolion sydd wedi eu hapwyntio fel rheolwr ac is-reolwr y sŵ.