Sŵ Borth wedi ennill yr hawl i gadw anifeiliaid peryglus

  • Cyhoeddwyd
Wild Animal Kingdom

Mae sŵ, lle bu farw dau lyncs o fewn diwrnodau i'w gilydd, wedi ennill yr hawl i gadw anifeiliaid peryglus unwaith eto.

Roedd canolfan Wild Animal Kingdom Borth yng Ngheredigion wedi cael eu gwahardd rhag cadw rhai anifeiliaid peryglus gan gynnwys cathod gwyllt ar ôl y marwolaethau ym mis Hydref 2017.

Ar ôl archwiliad o'r sŵ, dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod nhw wedi penderfynu gwyrdroi'r gwaharddiad ar yr amod bod gofalwr profiadol, cymwys yn cael ei gyflogi.

Mae'r BBC wedi gofyn am ymateb gan y sŵ.

Mae'r sw wedi bod ar gau ers i Lilleth ddianc cyn cael ei difa gan swyddog arbenigol wedi iddi groesi i ardal fwy poblog o'r gymuned.

Bu farw ail lyncs, Nilly, o ganlyniad i "gamgymeriad" wrth ymdrin â'r gath wyllt.

Roedd y gwaharddiad yn atal cadw anifeiliaid "categori un" sy'n cynnwys cathod gwyllt, llewod, nadroedd a mwncïod mawr yn dilyn cyngor gan arbenigwyr.

Dywedodd llefarydd y byddai'r sŵ yn gallu cadw'r anifeiliaid ar yr amod eu bod nhw'n cyflogi gofalwr addas "o fewn chwe mis".

Roedd canolfan Wild Animal Kingdom Borth yn apelio'r gwaharddiad ond cafodd yr apêl ei dynnu yn ôl yn swyddogol ddydd Mercher.